Safle Ysgol Dyffryn Teifi (Llun: Plant y Dyffryn)
Mae rhai o gyn-ddisgyblion a phobl leol ardal Llandysul wedi galw ar Gyngor Sir Ceredigion i oedi’r broses o werthu safle ysgol Dyffryn Teifi.

Mae’r criw yn rhan o ymgyrch Plant y Dyffryn, sy’n gobeithio casglu cyfranddaliadau gan bobl leol i brynu safle’r ysgol a’i chadw ym meddiant y gymuned leol.

Ac mae is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sydd hefyd yn byw yn lleol, Cen Llwyd, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones i ymyrryd yn uniongyrchol i alw ar Gyngor Ceredigion i oedi’r arwerthiant agored.

Menter gymunedol

Mewn neges at y Prif Weinidog, mae Cen Llwyd yn tynnu sylw fod Llywodraeth Cymru wedi penodi Dyffryn Teifi yn ardal Twf Lleol fel rhan o strategaeth i ddatblygu’r ardal oherwydd ei phwysigrwydd i’r Gymraeg.

“Penodwyd Dyffryn Teifi yn ardal twf yn 2013 gan Lywodraeth Cymru ond ers hynny rydyn ni wedi colli nifer o wasanaethau fel banciau a swyddfeydd y Cyngor, ac mae eraill dan fygythiad nawr,” meddai.

“Oes bwriad gan y Llywodraeth i ddal ar y cyfle hwn i gynnig cymorth i’r Awdurdod Lleol a gwneud yn fawr o’r parodrwydd lleol i ddiogelu safle’r hen ysgol fel adnodd cymunedol?” gofynna.

“Dylai’r Llywodraeth a’r Awdurdod Lleol weithio gyda’i gilydd er mwyn gwireddu potensial y fenter gymunedol gyffrous hon.”

Cefndir

Daw’r alwad wedi i bron i 100 o bobl dyrru ynghyd yn Llandysul brynhawn dydd Sul ar gyfer cyfarfod cyhoeddus wedi’i drefnu gan Blant y Dyffryn.

Mae disgwyl i safle ysgol Dyffryn Teifi gael ei gwerthu ar Fedi 30 am amcan bris o £250,000-£300,000.

Fe fydd cabinet Cyngor Ceredigion yn cyfarfod bore dydd Mawrth, Medi 6, i drafod manylion terfynol gwerthiant y safle ond mae’r ymgyrchwyr yn galw am oedi’r broses oherwydd prinder amser i gasglu’r cyfranddaliadau.

Am hynny, fe fydd rhai yn protestio tu allan i swyddfeydd y Cyngor yfory a fydd, yn ôl neges ar eu tudalen Facebook, “yn sioe o gryfder i adlewyrchu ymrwymiad y gymuned i’n hachos.”

Mae ysgol newydd gydol oes i’r ardal yn agor i’r disgyblion heddiw ar safle newydd, sef Ysgol Bro Teifi.