Mae disgwyl i Gyngor Sir Powys roi’r gorau i gynlluniau i gau ysgolion uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu a sefydlu un ysgol newydd – a hynny wedi i gorff arolygu ysgolion, Estyn, gamu i mewn i’r ffrae.

Mae disgwyl hefyd i’r awdurdod ymgynghori eto cyn cau’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Aberhonddu.

Yn ôl Estyn, fyddai addysg yn yr ardal ddim ar ei hennill wrth uno’r ddwy ysgol dan sylw, ac mae’r adroddiad hefyd yn argymell gofyn barn y bobol unwaith yn rhagor ynglyn â chau’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu gyda’r ddarpariaeth yn cael ei throsglwyddo i gampws Llanfair-ym-Muallt.

Fe fydd y Cyngor llawn yn trafod y materion sydd wedi codi o’r adroddiad ddydd Iau nesaf (Medi 8), gyda’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y cabinet ar Fedi 27.

Ateb cywir

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, Aelod y Cabinet dros Ysgolion ar Gyngor Sir Powys: “Roedd yn amlwg i unrhyw un a fynychodd y cyfarfodydd ymgynghori yng Ngwernyfed ac Aberhonddu nad oedd cefnogaeth i’r cynlluniau ar gyfer un ysgol 11-16 yn gweithredu ar un safle yn Aberhonddu.

“Er bod llawer o fanteision o gael ysgol 11-16 mwy o faint yn Aberhonddu nid dyma’r ateb cywir ar gyfer yr ardal ac mae hynny’n glir o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r cymunedau wedi datgan eu barn ac r’yn ni wedi gwrando a byddwn yn rhoi’r gorau i’n cynlluniau ar gyfer un ysgol ar un safle.

“Yr argymhelliad fydd i’r cabinet gefnogi’r cynlluniau i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol diwygiedig i Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ar gyfer campws newydd 11-18 yn Aberhonddu a gwelliannau i gampws Gwernyfed.