Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau Llun: PA
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi dymuno pob lwc i ddisgyblion  Cymru cyn iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.

Dywedodd Kirsty Williams AC ei bod yn gobeithio y bydd yr holl waith caled yn “talu ar ei ganfed” ac mae hi hefyd wedi atgoffa pobl ifanc bod sawl opsiwn iddyn nhw yn y dyfodol.

Eleni eto, mae disgwyl i ferched wneud yn well na bechgyn mewn mwyafrif helaeth o bynciau.

Ar draws Prydain y llynedd fe gafodd 73.1% o ferched radd C neu uwch o’i gymharu â 64.7% o fechgyn.

Yng Nghymru y llynedd fe wnaeth disgyblion sicrhau gradd C neu uwch mewn 66.6% o arholiadau TGAU – yr un ffigwr a 2014.

Fe fydd newidiadau i arholiadau’r flwyddyn nesaf gyda chymwysterau penodol Cymreig yn cael eu harholi, gan ei gwneud yn anoddach i gymharu canlyniadau Cymru a Lloegr.

‘Pob lwc i bawb’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Pob lwc i bawb sy’n aros am eu canlyniadau TGAU. Rwy’n gobeithio bydd eich holl waith caled yn talu ar ei ganfed a’ch bod yn derbyn y canlyniadau rydych eisiau.

“Mae yna amrywiaeth o opsiynau a gwasanaethau cymorth ar gael i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir wrth i chi edrych ymlaen at astudio pellach neu fynd i’r byd gwaith.”