David Hoare, cyn-gadeirydd Ofsted, Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Cadeirydd Addysg y corff archwilio Ofsted wedi ymddiswyddo heddiw ar ôl dod o dan bwysau i wneud hynny wedi iddo alw’r Ynys Wyth yn “geto” lle mae “mewnfridio.”

Fe gadarnhaodd David Hoare y byddai’n ymddiswyddo heddiw wythnosau’n unig wedi iddo ymddiheuro am ei sylwadau a gofnodwyd ar offer sain yn ystod cynhadledd addysg.

Ar y tâp, mae’n canmol yr Ynys Wyth fel cyrchfan gwyliau yn enwedig atyniadau fel hwylio, cyn ychwanegu:

“Ond o fewn modfeddi, mae yna bobol yn byw mewn geto… Mae’n syfrdanol. Geto yw e; ac mae mewnfridio wedi bod yna.”

Ymddiheuro

 

Cafodd ei sylwadau eu beirniadu’n hallt, ac fe ymddiheurodd yn gyhoeddus ynghyd â chysylltu’n bersonol ag arweinydd Cyngor yr Ynys Wyth, Jonathan Bacon.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad heddiw, dywedodd David Hoare, “mae wedi bod yn fraint i arwain bwrdd Ofsted am y ddwy flynedd ddiwethaf,” ac ychwanegodd y byddai’n gweld eisiau cydweithio â’r tîm.

Mae Ofsted wedi cadarnhau bod James Kempton, uwch aelod o’r bwrdd anweithredol wedi cytuno i gymryd yr awenau fel cadeirydd dros dro.