Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru
Mae canlyniadau Lefel A myfyrwyr Cymru’n waeth na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, wedi cyfadde’ heddiw nad yw myfyrwyr wedi “cyrraedd y nod” mewn rhai meysydd.

Ychwanegodd y bydd yn edrych yn fanwl ar fanylion llawn y canlyniadau i “weld pa wersi y gallwn eu dysgu” a beth all ei wneud yn wahanol.

Canlyniadau

Cafodd bron i dri o bob 10 ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon y graddau gorau posib sef A neu A*- 29.5%. Yn Lloegr roedd y ffigwr yn 25.8% ac yng Nghymru roedd yn 22.7%.

Myfyrwyr Gogledd Iwerddon oedd â’r gyfradd orau wrth ennill graddau A * – E hefyd gyda 98.2% o ymgeiswyr yn pasio. Mae’r ffiwgur ar gyfer Lloegr yn 98.1% ac i Gymru roedd yn 97.3%.

Ond mewn Mathemateg – y pwnc mwya poblogaidd ar draws y DU – perfformiodd Cymru yn well na Lloegr unwaith eto wrth i 43.2% ennill graddau A*-A.

Yn ol ysgrifennydd addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams, gwelwyd hefyd ganlyniadau gwell o A*-C mewn pynciau fel Hanes, Celf a Dylunio a Seicoleg.

Ac mae’r canlyniadau ar gyfer Bagloriaeth Cymru (Diploma Uwch) yn dangos bod 89.8% wedi ennill Diploma Uwch yn 2016, sydd 2.5% yn fwy nag yn 2015.

Ledled gwledydd Prydain, mae’r bwlch rhwng merched a bechgyn wedi culhau am y tro cyntaf mewn pum mlynedd ac mae nifer y myfyrwyr sydd ennill A * yn is na’r llynedd.

Gwersi i’w dysgu

Wrth ymweld â myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Maesteg y bore yma, dywedodd Kirsty Williams mai heddiw yw’r diwrnod i “ddathlu llwyddiannau ein disgyblion”.

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw,” meddai, “a diolch iddyn nhw am eu holl waith caled. Dyma ddiwrnod pwysig, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth iddynt wneud penderfyniadau pwysig am eu camau nesaf mewn bywyd.

“Ond, nid ydym wedi cyrraedd y nod mewn rhai meysydd. Byddaf yn edrych yn fanwl ar fanylion llawn y canlyniadau hyn a’r rhai rydyn ni’n eu disgwyl yr wythnos nesaf i weld pa wersi y gallwn eu dysgu a beth y gallwn wneud yn wahanol. Mae ein perfformiad wrth ennill y graddau uchaf mewn Mathemateg yn dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni.

“Byddaf yn pwyso ar i’n gwaith diwygio fynd yn ei flaen ac yn parhau i ddatblygu cymwysterau i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu system addysg sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddisgyblion sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern.”