Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb i gyhuddiad eu bod “wedi methu â chynnal asesiadau trwyadl ac annibynnol ar effeithiau tymor hir cau ysgolion gwledig ar gymunedau Cymraeg”.

Wrth ymateb i honiadau cynghorydd Llais Gwynedd ar y wefan hon brynhawn ddoe, meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, “rydym yn dilyn yr holl gamau statudol sy’n angenrheidiol gan gynnwys asesiadau ardrawiad iaith. Mae unrhyw awgrym i’r gwrthwyneb yn gwbl ddi-sail”.

Roedd Alwyn Gruffydd yn gwneud y sylwadau yn dilyn penderfyniad arwyddocaol yn yr Uchel Lys yr wythnos ddiwethaf, lle cafodd Cyngor Sir Ddinbych eu beirniadu am beidio ag ymgynghori’n ddigonol ynglŷn â chau dwy ysgol wledig yn Nyffryn Clwyd a’i effaith ar y Gymraeg a’r gymuned.

‘Cynnal yr iaith’

Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, “ni roddwyd unrhyw ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd i hyfywdra cymunedau sy’n asgwrn cefn i’r Gymraeg a rôl ganolog yr ysgol wledig yn nyfodol y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”

Ond, mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb i hyn gan ddweud, “yma yng Ngwynedd yr ydym yn hyrwyddo addysg o ansawdd fel bod plant a phobl ifanc y sir yn cyflawni’r safonau uchaf er mwyn cynnal yr iaith, diwylliant a’r economi yn lleol.

‘Her ym maes arweinyddiaeth’

Roedd y cyngor yn cydnabod fod her yn ei hwynebu ym maes arweinyddiaeth yn yr ysgolion.

“Mae’r her ym maes arweinyddiaeth ac addysgu yn rhywbeth na ellir ei anwybyddu, ac mae angen i ni wynebu hynny os ydym am ddiogelu ansawdd addysg, gan gynnwys addysg wledig,” meddai’r llefarydd.

“Ochr yn ochr â hynny, byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgolion, ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru byddwn yn cynnig arweiniad yn lleol ac i siroedd eraill Cymru yn y maes pwysig hwn.

“Fel Cyngor rydym yn gwbl hyderus yng nghywirdeb y prosesau a ddilynir wrth adrefnu addysg mewn unrhyw sefyllfa,” ychwanegodd y llefarydd.