Mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched mewn pynciau craidd yn “frawychus” ac yn “annerbyniol”, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Yn ôl yr adroddiad, mae merched rhwng saith a 14 oed wedi perfformio’n well na bechgyn ym mhob pwnc a maes dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3.

Eleni yw’r tro cyntaf ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn 2012 i’r bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched ehangu yn y Dangosyddion Cyfnod Sylfaen.

Mae canran y merched sy’n cyrraedd lefel 5 ar y dangosyddion wedi cynyddu’n flynyddol ers y dechrau, ond mae’r canran ar gyfer bechgyn wedi gostwng 0.1% am y tro cyntaf erioed.

Yn y Gymraeg – iaith, llythrennedd a chyfathrebu – y gwelwyd y gostyngiad mwyaf (0.7%).

Mewn ail adroddiad yn tynnu sylw at bynciau nad ydyn nhw’n rai craidd, roedd merched yn perfformio 12.8% yn well na bechgyn wrth astudio Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3.

Meddai’r Ceidwadwyr… 

Dywedodd llefarydd sgiliau’r Ceidwadwyr, Mohammad Ashgar: “Mae’r data’n rhoi darlun brawychus o addysg yng Nghymru, lle mae anghenion addysgiadol bechgyn yn amlwg yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Lafur Cymru.

“Mae angen gwneud mwy o ymchwil er mwyn egluro pam fod merched yn gyson yn perfformio’n well na bechgyn yn eu dosbarth.”

Ychwanegodd y byddai’r bwlch yn cael effaith hirdymor ar y farchnad swyddi yn y dyfodol, gan alw am ymchwiliad i’r sefyllfa.