Hywel Lewis (Llun Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
Mae corff iaith Ewropeaidd wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddileu’r syniad o Gymraeg ‘ail iaith’ a mynd ati o ddifri i hyrwyddo’r manteision dwyeithrwydd ymhlith rhieni.

Heb wneud hynny, meddai CAER – Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau – does gan y Llywodraeth ddim gobaith o gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r dull o ddysgu ail iaith sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn “gwbl gyfeiliornus”, yn ôl Hywel Lewis, is-lywydd CAER trwy Ewrop mewn cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Pum pwynt

Fe nododd bum pwynt allweddol, gan gynnwys sicrhau bod pob ysgol yn dysgu Cymraeg heb wahaniad rhwng iaith gynta’ ac ail iaith, a bod pob disgybl yn cael cyfle i elwa ar y manteision sydd o fod yn ddwyieithog.

Doedd dim amheuaeth am y rheiny, meddai Hywel Lewis – roedd ymchwil ryngwladol yn eu cadarnhau.

Roedd hefyd yn galw am ddwy fath o raglen ymwybyddiaeth – i blant ddysgu am hanes yr iaith a’i chefndir ac i godi’r ymwybyddiaeth bod ieithoedd bach tebyg i’r Gymraeg ar draws Ewrop ac mai’r norm yw mwy nag un iaith.

Fe ddyfynnodd un arbenigwr addysg sy’n dweud bod amddifadu plant rhag cael mwy nag un iaith yn “anfoesol”.

Donaldson

Fe gododd argymhellion CAER yn sgil adroddiad Donaldson ar ddyfodol addysg yng Nghymru a’r pryder y gallai trefniadau newydd yn ei sgil olygu bod ysgolion mewn rhai ardaloedd yn parhau i ddysgu ‘ail iaith’.