Llun: PA
Bydd cynnig gerbron cyfarfod llawn o Gyngor Caerdydd heddiw i drafod newidiadau i wyliau ysgol.

Yn ôl y Cynghorydd Ed Bridges, sydd wedi dwyn y cynnig gerbron, mae hi’n ddrytach nag erioed i deuluoedd gymryd gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.

Meddai cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros ward Gabalfa yn y brifddinas bod hynny’n gorfodi rhieni i ddewis rhwng tynnu eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor neu beidio cael gwyliau o gwbl.

Ychwanegodd mai un ateb posib yw cael llai o wyliau haf gan greu wythnos ychwanegol o wyliau ble nad oes gwyliau ar hyn o bryd.

‘Llai o wyliau haf’

Meddai’r Cynghorydd Ed Bridges: “I lawer o deuluoedd mae’n golygu gorfod dewis rhwng cymryd plant allan o’r ysgol, a cholli amser dysgu hanfodol, neu beidio cael gwyliau o gwbl.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd yn credu mai’r ateb yw gwneud newidiadau i galendr yr ysgol, gan greu wythnos ychwanegol o wyliau y tu allan i gyfnodau brig y gwyliau presennol.”

‘Ymchwilio’

Mae’r cynnig mae Ed Bridges wedi dwyn gerbron y cyngor yn gofyn i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor wneud “dadansoddiad manwl o’r mater ac argymell opsiynau posibl ar gyfer patrymau’r tymhorau yn y dyfodol er mwyn i’r Cabinet ystyried hynny cyn etholiadau lleol mis Mai 2017.”

Ychwanegodd Ed Bridges: “Mae angen gwneud mwy i ymchwilio i sut y gallai weithio yn ymarferol ond rwy’n gobeithio y bydd y pleidiau eraill yn cefnogi’r cynnig fel y gellir o leiaf edrych arno mewn rhagor o fanylder.”

Llywodraeth Cymru

Ym mis Mehefin dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams na fyddai’n defnyddio ei phwerau gweinidogol i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu am ddyddiadau’r tymhorau ar gyfer y flwyddyn ysgol i ddod.

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau fydd yn gweddu orau i anghenion eu cymunedau.”