Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i gyhoeddi rhybudd statudol dros ddiddymu ffrwd Saesneg ysgol gynradd ger Llanelli.

Bwriad y Cyngor yw troi Ysgol Gynradd Llangennech yn un cyfangwbl Gymraeg ei hiaith.

Bydd y rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi ‘yn y dyfodol agos’, meddai’r Cyngor, a bydd yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Cyngor llawn yn y cyfarfod ar 28 Medi.

Mae’r Cyngor wedi cael rhybudd y gallai’r rhybudd statudol arwain at her gyfreithiol yn ei erbyn.

Y farn wedi’i hollti

Mewn cyfarfod hir y bore ‘ma, fe wynebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Gareth Jones, 30 o gwestiynau gan rieni oedd yn chwyrn yn erbyn ac eraill o blaid.

Roedd rhai wedi cyhuddo’r Cyngor o “orfodi’r Gymraeg” ar drigolion ac eraill yn poeni y byddai’n rhaid i rieni sydd am roi addysg Saesneg i’w plant deithio’n bell i wneud hynny.

Roedd eraill yn poeni y byddai plant ag addysg arbennig ddim yn cael yr un chwarae teg os byddai’r ysgol yn troi’n ffrwd Gymraeg yn unig.

Dywedodd Robert Willcock, un o’r rhai oedd yn erbyn ac yn gofyn cwestiwn i’r Cynghorydd Gareth Jones, fod cynllun y Cyngor yn mynd yn erbyn y Cytundeb Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Dywedodd cyn-riant a chyn-athro, Michael Rees, sydd ddim yn siarad Cymraeg ei hun, fod Cymraeg ail iaith mewn ysgolion dwy ffrwd neu ysgolion Saesneg wedi bod yn “fethiant llwyr”.

Gofynnodd: “A yw’r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â’m sylwadau mai’r addysg fwyaf effeithiol i greu plant dwyieithog cwbl rugl – o ran siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg a Chymraeg – yw addysg cyfrwng Cymraeg?”