Cyngor Sir Gâr
Mewn cyfarfod heddiw, bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr yn parhau i drafod cynnig dadleuol i ddiddymu’r ffrwd Saesneg mewn ysgol gynradd ger Llanelli.

Mae’r Cyngor am droi Ysgol Gynradd Llangennech yn un gyfan gwbl Gymraeg ond mae gwrthwynebiad wedi bod o rai rhieni, sy’n dadlau bod angen cadw “dewis” i bobol rhwng addysg Gymraeg ac addysg Saesneg.

Mae’r rhai sydd yn erbyn hefyd yn dweud y byddai angen iddyn nhw deithio’n bell i’w plant dderbyn addysg drwy’r Saesneg.

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn rhoi ei argymhellion yn y cyfarfod heddiw, gyda’r penderfyniad wedyn yn mynd ymlaen at y Cyngor llawn.

Mae disgwyl datganiad gan y Cyngor ar ôl y cyfarfod.