Cyngor Sir Caerfyrddin
Yn dilyn cyfarfod gan Fwrdd Craffu Cyngor Sir Gâr heddiw, mae aelodau’r pwyllgor wedi argymell derbyn cynnig i gael gwared a ffrwd Saesneg Ysgol Llangennech ger Llanelli.

Fe fydd yr adroddiad am ddyfodol ieithyddol yr ysgol gynradd nawr yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cynlluniau i gau’r ysgol babanod ac iau yn y pentref ger Llanelli a sefydlu ‘Ysgol Gymunedol Gynradd Llangennech’ ar gyfer disgyblion 3 – 11 oed.

Ond, mae’r cynllun wedi bod yn un dadleuol oherwydd ei fwriad i droi’r ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.

Mae rhai rhieni o’r farn y byddai gwaredu â’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn effeithio ar addysg eu plant a fyddai’n gorfod teithio i ysgol arall i gael addysg Saesneg.

Eisoes, mae 363 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar y Cyngor i “gadw dewis y rhieni”, yn hytrach na “gorfodi” addysg Gymraeg ar y gymuned.

Ond mae eraill, gan gynnwys y Cynghorydd lleol, Gwyneth Thomas, o’r farn bod “galw mawr” am fwy o addysg Gymraeg yn y sir.

Camau nesaf

Pwysleisiodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr fod “cyfnod hir i fynd tan y bydd penderfyniad yn cael ei wneud” ynglŷn â dyfodol yr ysgol.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Gweithredol drafod yr adroddiad yn awr gan ystyried cwestiynau’r rhieni – cyn y byddan nhw’n penderfynu a ddylid rhoi hysbysiad statudol ar y cynllun ai peidio.

Os bydd y Bwrdd yn penderfynu cyhoeddi hysbysiad statudol, fe fydd cyfnod ymgynghori arall yn dechrau ym mis Medi i gasglu barn rhieni, athrawon a’r gymuned ehangach, cyn llunio adroddiad arall.

Yna, fe fydd y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn o 74 o gynghorwyr, ac fe fyddan nhw’n penderfynu’n derfynol a ddylai ysgol Llangennech droi i fod yn ysgol gyfan gwbl Gymraeg, neu barhau’n ddwyieithog.

 ‘Cymraeg Ail Iaith ddim yn gweithio’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad y pwyllgor. Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin: “Mae’r penderfyniad yma yn cadarnhau yr hyn mae pawb (gan gynnwys y Prif Weinidog, Carwyn Jones,) yn cydnabod bellach – nad yw Cymraeg Ail Iaith yn gweithio.

“Mae’n fwriad gan y Cyngor i symud mwy o ysgolion i allu cynnig mwy o addysg Gymraeg felly gallai Ysgol Llangennech arwain y ffordd.

“Cyfarfod pwyllgor craffu oedd heddiw, bydd eu penderfyniad nhw yn mynd at y Bwrdd Gweithredol i’w gymeradwyo, ond rydyn ni’n ffyddiog y byddan nhw’n dod i’r un casgliad; ac y bydd y broses ddilynol yn mynd rhagddi cyn gynted â phosibl.”