Bydd grŵp o gynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod dydd Llun i drafod diddymu ffrwd Saesneg un o’i hysgolion cynradd.

Mae cynlluniau wedi bod ar y gweill gan Gyngor Sir Gâr i droi Ysgol Gynradd Llangennech yn ysgol gyfan gwbl Gymraeg ers rai misoedd, ond mae rhai pobol leol yn gwrthwynebu’r cam.

Mae 360 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gofyn i’r Cyngor “gadw dewis y rhieni”, yn hytrach na “gorfodi” addysg Gymraeg ar y gymuned.

Er hyn, 29 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol babanod ar hyn o bryd o gymharu â 181 sy’n cael eu haddysg yn Gymraeg, yn ôl y cynghorydd lleol, Gwyneth Thomas.

“Wel, does neb yn hoffi newid, ond mae yna ymgynghoriad a chyfle nawr i roi ymateb p’un ai dros y syniad neu yn erbyn y syniad,” meddai wrth golwg360 ym mis Chwefror am yr ymgynghoriad sydd bellach wedi cau.

Yn y cyfarfod dydd Llun, bydd y pwyllgor yn ystyried yr ymgynghoriad cyn penderfynu a fyddan nhw’n cau ysgol babanod ac ysgol iau Llangennech a sefydlu Ysgol Gymunedol Gynradd Llangennech 3-11 oed.

“Amddifadu” disgyblion ffrwd Saesneg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant y Cyngor, Eirwyn Williams, yn argymell y dylai’r cynlluniau mynd yn eu blaen.

“Ar y wyneb, mae cael ffrydiau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn rhoi’r syniad o ddewis i rieni. Yn ymarferol fodd bynnag, mae cofrestru disgyblion yn y ffrwd Saesneg yn eu hamddifadu o ddewisiadau mewn bywyd,” meddai Sioned Elin, cadeirydd y mudiad yn yr ardal yn y llythyr.

“Cydnabyddir gan bawb yn y maes – gan gynnwys Prif Weinidog Cymru – mai methiant fu’r syniad o “Gymraeg Ail Iaith” ac, o ganlyniad, dim ond y disgyblion yn y ffrwd Gymraeg sy’n datblygu’r sgiliau i weithio yn y ddwy iaith.

“Mae disgyblion y ffrwd Saesneg yn cael eu hamddifadu’n addysgol. Mae proses raddol o unioni’r cam trwy’r sir a dylid hybu’r broses.”