Neuadd Pantycelyn
Mae pwyllgor ar ddyfodol Neuadd Pantycelyn wedi cwblhau ei adroddiad ar sut i ddatblygu’r llety i fyfyrwyr yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys briff dylunio ac argymhellion sy’n seiliedig ar astudiaeth annibynnol a gafodd ei wneud ym mis Ionawr oedd yn argymell “ail-agor” y Neuadd cyn gynted â phosib.

Bydd adroddiad Bwrdd Prosiect Pantycelyn Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y brifysgol am gymeradwyaeth ar 27 Mai.

Bydd yr adroddiad yna’n mynd ymlaen at Gyngor y Brifysgol, y corff sy’n cael y gair olaf ar benderfyniadau mawr y sefydliad, ar 29 Mehefin.

Croeso gan UMCA

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi bod yn ymgyrchu’n hir i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor.

“Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r anghenion y mae UMCA wedi bod yn gofyn amdanynt ers amser, ac rwy’n diolch i’r Brifysgol am eu parodrwydd i weithio gyda ni a gwneud Pantycelyn yn flaenoriaeth drwy gwblhau’r adroddiad ar amser,” meddai Hanna Merrigan, Llywydd UMCA.

Bydd copi o’r adroddiad yn cael ei anfon at aelodau’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth ar 20 Mai 2016 a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Brifysgol ar yr un pryd.