Cyngor Abertawe
Mae ymgyrchwyr sy’n galw am sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ardal Fforest-fach, Abertawe wedi cyhuddo aelodau Cabinet y Cyngor o fod yn “wrth-Gymraeg”.

Dydy’r Cyngor “ddim am weld addysg Gymraeg yn tyfu” yn yr ardal, meddai Robin Campbell, un o’r ymgyrchwyr, wrth golwg360, a “dydyn nhw ddim am gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg”.

Ond mae aelod cabinet Cyngor Abertawe dros addysg wedi dweud bod sylwadau Robin Campbell yn “sarhaus a chamarweiniol.”

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae ‘na angen fawr am ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal, gyda 170 o blant yn gorfod teithio o’r gogledd i dde’r sir, i fynd i ysgolion eraill.

Mae yna wyth ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal ar hyn o bryd, ac mae ymgyrchwyr yn dweud bod y rhain eisoes yn “orlawn”.

Ac mae’n debyg bod un o’r ysgolion, Ysgol Pontybrenin yn ardal Gorseinon yn gweithredu rota ar gyfer egwyl y bore gan nad oes digon o le i bawb ar yr iard ar yr un pryd.

‘Gorlenwi’ yn lle darparu

“Y broblem yw diffyg cynllunio ar ran y sir,” meddai Robin Campbell, “Yn hytrach ‘na darparu ysgol newydd i ni fan hyn, maen nhw’n gorlenwi ysgolion eraill”.

Dywedodd hefyd fod aelod o’r Cabinet dros Addysg, Jennifer Rayner, wedi dweud nad oes “safleoedd ar gael” am ysgol newydd ond bod y Cyngor eisoes wedi dod o hyd i ddau safle ar gyfer ysgolion newydd Saesneg.

“Bydden i’n bendant yn dweud bod rhai aelodau’r Cyngor yn wrth-Gymraeg, a nhw yw’r rhai pwerus yn anffodus,” meddai.

Dywedodd ei bod hi’n amhosib cael “cymuned o blant sy’n siarad Cymraeg” yn ardal Fforest-fach heb ysgol Gymraeg.

“Ond, mae momentwm gyda ni nawr, i ymladd dros yr ysgol hon.”

‘Sarhaus a chamarweiniol’

Wrth ymateb i’r honiadau dywedodd y Cynghorydd Jen Raynor, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros addysg: “Fel nain gydag wyrion ac wyresau mewn addysg cyfrwng Cymraeg, credaf fod ensyniadau Mr Campbell am ein safbwynt dros addysg cyfrwng Gymraeg yn un hynod sarhaus a chamarweiniol.

“Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu addysg gyfartal o ansawdd ar gyfer ei holl ddisgyblion – os ydynt yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg.”

Ychwanegodd: “Mae’n ymddangos fod gan Mr Campbell gof dethol iawn. Mae’n gwybod yn iawn nad ydym wedi creu dwy ysgol cyfrwng Saesneg newydd – mae’r adeiladau yn newydd ond mae un yn disodli adeilad gwarthus sy’n bodoli eisoes na ddylai unrhyw ddisgybl ei ddioddef ac mae’r ail yn galluogi gwagio adeilad fel y gall yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyfagos ehangu a gwella ei chyfleusterau.

“Yn y cyfamser, cafodd dwy ysgol cyfrwng Cymraeg newydd eu hagor yn 2011 a 2012, ac rydym wedi buddsoddi miliynau mewn cyfleusterau newydd neu eu huwchraddio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.”

‘Ystyried y safbwyntiau’

Ychwanegodd y Cynghorydd Jen Raynor “Mae ein cynllun ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei nodi’n glir, fel gyda phob awdurdod lleol arall, yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) ac yn cynllunio yn ôl yr angen a ragwelir.

“Mae gan Mr Campbell berffaith hawl i ymweld â safleoedd sydd yn ei farn ef yn addas a thrafod cynigion o’r fath gyda’r gymuned leol.

“Byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn fel rhan o’r trafodaethau capasiti cyfrwng Cymraeg ehangach tra’n sicrhau ei fod yn gyson â’n blaenoriaethau presennol yn ein Rhaglen Ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i wella amgylcheddau ysgol a rhoi hwb i gyrhaeddiad pawb.”