Cyngor Sir Benfro
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cyhoeddi hysbysiad statudol heddiw sy’n cyflwyno eu hamcanion yn swyddogol i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ar gyfer canol a gorllewin sir Benfro.

Daw hyn wedi i’r Cynghorwyr Sir roi sêl bendith yr wythnos diwethaf i adeiladu’r ysgol ar gyfer disgyblion 3 – 16 oed ar safle Ffordd Llwynhelyg, Hwlffordd.

Fe fydd addysg Gymraeg ôl-16 yn cael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli, Crymych.

Yn ogystal, mae’r hysbysiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cadarnhau y bydd Ysgol Glan Cleddau yn Hwlffordd yn cau fel rhan o’r trefniant.

Mae gan y cyhoedd tan Fai 25 i gyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r hysbysiad.