Mae tua 200 o athrawon Powys wedi mynd ar streic heddiw oherwydd eu bod nhw’n anhapus ag amodau gwaith a thoriadau’r cyngor i’r gyllideb addysg.

Ond mae Cyngor Powys wedi beirniadu’r undeb am gymryd y camau gweithredu mor agos at arholiadau.

Fe wnaeth aelodau o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) orymdeithio o Ysgol Uwchradd Llandrindod i Neuadd Sir Powys y bore dydd Iau wedi i 83% o’u haelodau bleidleisio dros y streic.

Mae athrawon ym Mhowys yn flin am eu bod yn teimlo bod addysg plant yn cael ei danseilio gan doriadau, a bod llwyth gwaith yn raddol amharu ar greadigrwydd athrawon gan arwain at forâl isel.

‘Rhy agos at arholiadau’

Dywedodd Dee Hanson, ysgrifennydd yr NUT ym Mhowys, eu bod yn cymryd y camau hyn er mwyn sicrhau addysg dda i blant y sir, ac nid dros gyflog neu bensiynau.

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Powys dros addysg, Arwel Jones, mewn datganiad ei fod wedi ei “synnu ac yn siomedig” fod aelodau’r NUT yn cynnal streic mor agos at dymor arholiadau.

Ychwanegodd bod ysgolion y sir yn wynebu heriau mawr fel nifer llai o ddisgyblion sy’n effeithio ar y cyllid maen nhw’n ei dderbyn ac yn “cyfyngu ar ein gallu i ddarparu’r cwricwlwm cenedlaethol llawn a chynnal safonau”.