Mae Cabinet Cyngor Powys wedi gorchymyn y dylai ysgol uwchradd yn y sir dalu arian yn ôl ar ôl ei ddefnyddio ar fysus i blant o Loegr, yn hytrach nag ar addysg.

Daw hyn wedi ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru sy’n dangos bod Ysgol Uwchradd Llanfyllin  wedi gwario £500,000 ar gludo 149 o ddisgyblion ar fysiau ysgol o Sir Amwythig dros gyfnod o bum mlynedd.

Yn ystod cyfarfod y Cabinet heddiw, fe wnaethon nhw gytuno y dylai’r ysgol ad-dalu 50% o’r cyllid – £17,000 – a gafodd ei neilltuo i drafnidiaeth o 1 Ebrill 2016.

 

Argymhellion eraill

 

Mae’r ffrae wedi arwain at un cynghorydd ac aelod cabinet, y Cynghorydd Darren Mayor, i ymddiswyddo yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddiwedd mis Mawrth i orfodi’r ysgol i gydymffurfio â’i pholisi.

Mae argymhellion eraill y Cabinet yn cynnwys:

  • Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â pholisïau Cyngor Sir Powys o ran trafnidiaeth erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Galw ar Ysgol Uwchradd Llanfyllin i ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar sut maen nhw’n cydymffurfio â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd o ran trafnidiaeth ysgol yn gyffredinol – ac yn arbennig trefniadau rhwng y cartref a’r ysgol.
  • Cynnal cyfarfodydd misol rhwng swyddogion y cyngor a chynrychiolwyr yr ysgol i adolygu gwariant a chyllid yr ysgol.