Codi'r baneri y tu allan i Ysgol y Cwm yn Nhrevelin (llun: Isaias Grandis)
Mae’r ysgol ddwyieithog gyntaf yn rhan orllewinol y Wladfa ym Mhatagonia wedi agor ei drysau am y tro cyntaf heddiw.

Ysgol y Cwm yw’r drydedd ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg i’r Wladfa, ac mae wedi ei lleoli yn Nhrevelin wrth droed mynyddoedd yr Andes.

“Mae pawb yn hynod o gyffrous yma,” meddai Isaías Grandis, sy’n byw yn Nhrevelin ac yn enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012, wrth golwg360.

“Mae’n rhywbeth hollol hanesyddol, oherwydd dyma’r tro cyntaf erioed inni gael ysgol gwbl ddwyieithog yn yr Andes.”

Fe fydd yr ysgol yn croesawu disgyblion oed cynradd a meithrin i’w dosbarthiadau heddiw, ac fe fydd ei hagoriad swyddogol yn digwydd ddydd Llun, 14 Mawrth.

‘I’r genhedlaeth nesaf’

Yn ôl Isaías Grandis, mae 50 o blant eisoes wedi cofrestru i fynychu’r ysgol, ac fe fydd pedwar athro Cymraeg a thri athro Sbaeneg yn addysgu yno.

“Mae Ysgol y Cwm yn bwysig iawn, oherwydd mae’n ffordd i sicrhau y bydd yr iaith yn parhau i’r genhedlaeth nesaf, a chenedlaethau i ddod.”

Fe esboniodd fod ysgol ‘allgyrsiol’ yn bodoli eisoes yng Nghwm Hyfryd, ond roedd aelodau’r gymdeithas Gymraeg yn awyddus i sicrhau darpariaeth addysg Gymraeg swyddogol a pharhaol i’r ardal.

“Dyma oedd prif fwriad yr Andes ar gyfer blwyddyn dathlu’r Wladfa yn 150 y llynedd, ac rydym yn falch o lwyddo,” meddai.

Fe esboniodd fod pobl o bob tras yn awyddus i fynychu’r ysgol a dysgu’r Gymraeg.

“Fe allwn ni gymharu Ysgol y Cwm ag Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, sy’n ysgol ffrwythlon a ffyniannus, ac mae pawb yn edrych ymlaen at brofi’r bwrlwm,” ychwanegodd Isaías Grandis.