Mae cynlluniau ar waith gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i newid statws iaith un o ysgolion cynradd y sir yn dilyn y “galw cynyddol” am addysg Gymraeg.

Y bwriad yw newid statws iaith Ysgol Gynradd Llangennech, ger Llanelli o fod yn ddwyieithog i ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.

Fe fyddai hyn yn golygu uno’r ysgol fabanod a’r ysgol gynradd – sydd ar ddau safle ar hyn o bryd, gan sefydlu un ysgol cyfrwng Cymraeg i blant 3-11 oed.

Does dim penderfyniad terfynol wedi’i wneud eto ac mae’r ymgynghoriad ar y mater wedi’i ymestyn tan 18 Mawrth.

“Galw mawr” am addysg Gymraeg

Yn ôl y Cynghorydd lleol, Gwyneth Thomas, mae nifer y plant sydd am gael eu haddysg drwy’r Saesneg wedi lleihau’n “sylweddol” dros y blynyddoedd diwethaf yn yr ardal.

“Dim ond 29 sydd yn yr ysgol babanod ar hyn o bryd o gymharu â 181 sy’n cael eu haddysg yn Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

Ychwanegodd fod “galw mawr” hefyd am ragor o addysg Gymraeg yn gyffredinol ar draws y sir.

Ond er y galw, mae cryn dipyn o wrthwynebiad wedi bod i fwriad y cyngor, gyda 181 o bobol yn arwyddo ffurflen ar-lein i wrthwynebu newid statws iaith yr ysgol yn Llangennech.

“Wel, does neb yn hoffi newid, ond mae yna ymgynghoriad a chyfle nawr i roi ymateb p’un ai dros y syniad neu yn erbyn y syniad,” meddai Gwyneth Thomas.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y canlyniadau’n cael eu hystyried gan Bwyllgor Addysg y sir a’r Bwrdd Gweithredol, ac os caiff sêl bendith, gallai Ysgol Gynradd Llangennech fod yn ysgol gwbl Gymraeg erbyn mis Ionawr nesaf.