Fe fydd rhaid i rai myfyrwyr chweched dosbarth yng Ngwynedd dalu mwy i deithio i gael addysg o ganlyniad i gynlluniau newydd Cyngor Gwynedd.

Ar hyn o bryd, mae prisiau tocynnau teithio i fyfyrwyr dros 16 oed yn amrywio o £60 i £100, a hynny ar gost o oddeutu £1 miliwn y flwyddyn i’r Cyngor.

Ond fe fydd disgwyl iddyn nhw dalu £100 bob tymor fel rhan o’r cynlluniau newydd.

Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod ddydd Mawrth yn y gobaith y byddan nhw’n dod i rym ym mis Medi.

Ni fydd hawl gan fyfyrwyr sy’n byw o fewn tair milltir i’w hysgol neu goleg gael trafnidiaeth.