Mae Cyngor Sir Conwy wedi pleidleisio o blaid cau tair ysgol gynradd a’u huno nhw i greu un ysgol ardal newydd.

Bwriad y cyngor yw cau ysgolion Trefriw, Tal y Bont a Dolgarrog erbyn haf 2017, gan agor ysgol newydd ar safle’r un presennol yn Nolgarrog erbyn mis Medi 2017.

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu gwrthwynebu’n chwyrn yn Nhrefriw yn enwedig, gyda rhieni’n poeni eu bod yn wynebu siwrne hirach i fynd â’u plant i’r ysgol.

Bydd yr ysgol newydd gwerth £3.7m yn Nolgarrog yn agos at ddatblygiad hamdden Surf Snowdonia.

Gwrthwynebiad

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi mynegi pryder y gallai cau’r ysgol Gymraeg yn y pentref wneud niwed i’r iaith ac i gymuned Trefriw.

Mae’r ffordd rhwng Trefriw a Dolgarrog yn un sydd yn aml dan ddŵr oherwydd llifogydd, ac fe fynegodd gwrthwynebwyr y cynllun bryder y gallai hynny fod yn berygl i blant wrth deithio i’r ysgol newydd.

Roedd yr Aelod Cynulliad lleol Janet Finch-Saunders hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â chau’r ysgolion o ystyried eu bod yn perfformio’n dda mewn arolygon.

Llefydd gwag

Yn ôl y cyngor fodd bynnag y disgwyl yw mai dim ond 54 disgybl fydd yn Ysgol Dolgarrog, sydd yn dal hyd at 90, erbyn 2017.

Dim ond 22 disgybl mewn ysgol o 60 roedden nhw’n ei ragweld yn Nhal y Bont erbyn y flwyddyn nesaf, a dim ond 10 disgybl oedd yn cael ei ragweld yn Nhrefriw, sydd yn dal hyd at 69.

Roedden nhw felly wedi penderfynu y byddai’n well petai’r 86 o ddisgyblion roedden nhw wedi eu hamcangyfrif fyddai yn y tair ysgol i gyd yn mynychu’r safle newydd yn Nolgarrog fyddai’n gallu dal hyd at 120.

Mae pob un o’r ysgolion presennol yn rhai cyfrwng Gymraeg Categori 1, sef yr un categori a’r ysgol newydd arfaethedig, ac fe ddywedodd Estyn yn eu tystiolaeth i’r ymgynghoriad nad oedd y cynlluniau’n debygol felly o effeithio ar ddarpariaeth addysg Gymraeg y sir.