Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion a phrosiectau tai cymdeithasol ar hyd a lled Cymru yn cael buddsoddiad ychwanegol o £43 miliwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ôl Gweinidog Cyllid y Llywodraeth Jane Hutt, fe fydd y buddsoddiad hefyd yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru gan gefnogi hyd at 800 o swyddi – gan gynnwys 300 yn adeiladu ysgolion newydd a 500 yn darparu tai fforddiadwy.

Dyma’r manylion:

  • £23m i brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau.
  • £20m o grant Tai Cymdeithasol i helpu i adeiladu tua 230 o dai fforddiadwy ar hyd a lled y wlad.

Fe wnaeth Jane Hutt y cyhoeddiad wrth ymweld â Champws Dysgu Treffynnon sydd wedi cael £15.5m trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a datblygiad tai fforddiadwy Llys Santes Ann sydd wedi cael £693,000 trwy’r grant tai cymdeithasol.

Roedd yr arian, meddai, yn hwb ychwanegol yn y ddau faes.