Mae pwysau ar Bwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas Casnewydd heddiw i roi eu cefnogaeth dros adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf y ddinas.

Bydd y pwyllgor yn ystyried cais cynllunio i adeiladu’r ysgol ar safle Ysgol Uwchradd Dyffryn, a fydd yn golygu bod yr ysgol yn agor ym mis Medi 2017.

Fodd bynnag, mae swyddog cynllunio’r awdurdod lleol wedi argymell y dylid gwrthod y cais yn dilyn peryglon gafodd eu codi gan Cyfoeth Naturiol Cymru o lifogydd ar y safle.

Ond yn ôl y cyngor, dyma’r unig safle hyfyw ar gyfer yr ysgol, a fydd yn cynnig lle i hyd at 900 o ddisgyblion, a bodloni’r galw cynyddol ar draws y rhanbarth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Os bydd y Pwyllgor Cynllunio yn fodlon â’r gwaith o liniaru unrhyw berygl o lifogydd, bydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

‘Cwbl hanfodol’

Mae’r mudiad, RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) yn credu y dylid parhau â datblygiad yr ysgol, gan ddweud y byddai gwrthod y cais yn “arwain at ganlyniadau difrifol dros ben” i addysg Gymraeg yr ardal.

Mewn llythyr at aelodau’r Pwyllgor Cynllunio, dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, fod yr ysgol newydd yn “gwbl hanfodol” i ymrwymiad yr awdurdod lleol ac i “obeithion a disgwyliadau teuluoedd Casnewydd a De Sir Fynwy.”

Rhybuddiodd y byddai’r ysgol uwchradd Gymraeg arall yn yr ardal – Ysgol Gyfun Gwynllyw yn yr ardal “dan ei sang yn 2016” heb yr ysgol newydd .

“Mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn gorfod teithio allan o’r sir i gael mynediad at addysg uwchradd Gymraeg, ac mae hyn ar gost sylweddol i’r awdurdod,” meddai.

‘Cyfle gwerthfawr’

Ychwanegodd Lynne Davies:  “Rydym yn annog yr awdurdod lleol i ganiatáu’r cais hwn, yn amodol ar weithio gyda’r asiantaethau perthnasol i sicrhau bod mesurau addasu yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw risg, a bod cynllun rheoli llifogydd cadarn a gwacáu yn ei le fel mater o frys.

“Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn torri tir newydd wrth agor yr ysgol newydd hon, mae’n gyfle gwerthfawr na ellir ei golli.”

Cynllun rheoli

Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd fod y gwaith a wnaed wrth baratoi’r cais cynllunio yn cynnwys cynllun rheoli argyfwng llifogydd wrth ddefnyddio’r safle “i sicrhau diogelwch disgyblion a staff ar bob adeg, hyd yn oed mewn achos annhebygol o lifogydd eithafol”.