Neuadd Pantycelyn
Mae adroddiad ar ddyfodol Neuadd Pantycelyn wedi cael ei gyhoeddi bore ‘ma, sy’n argymell y dylid ail-agor y llety i fyfyrwyr cyn gynted â phosib.

Fe wnaeth awdurdodau Prifysgol Aberystwyth gau’r neuadd i fyfyrwyr Cymraeg y llynedd, yn dilyn ymgyrch hir gan fyfyrwyr i’w hachub.

Fe gomisiynwyd yr adroddiad gan y brifysgol i edrych sut y gellir datblygu llety a gofod cymdeithasol addas i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a fyddai’n addas at anghenion y deugain mlynedd nesaf.

Cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, awgrym y brifysgol oedd ail-agor y neuadd, sydd wedi bod yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y brifysgol ers 1973, ymhen pedair blynedd.

Mae’r adroddiad hwn gan gwmni Old Bell o Landeilo, yn cynnwys 10 argymhelliad gyda’r un cyntaf yn nodi y dylid cadw adeilad ac enw Neuadd Pantycelyn.

Yn ôl yr adroddiad, dylid sicrhau ystafelloedd en-suite yn y neuadd er mwyn ‘ateb y galw cynyddol’ am gyfleusterau mwy modern.

Mae’r hyn oedd y myfyrwyr yn ymgyrchu amdano, sef cadw strwythur y neuadd o goridorau hir a darparu llety arlwyo, hefyd yn cael ei argymell yn yr adroddiad.

Cafodd y gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad ei wneud rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2015 a 585 o ymatebion daeth drwy holiaduron ar-lein a grwpiau ffocws.

Atyniad ‘unigryw’ Pantycelyn

Roedd yr adroddiad yn pwysleisio ‘atyniad unigryw’ Pantycelyn fel lle sy’n denu myfyrwyr Cymraeg i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae brwydr hir wedi bod rhwng y Brifysgol a myfyrwyr am ddyfodol y neuadd, gyda chriw o brotestwyr yn meddiannu’r adeilad am ryw wythnos ym mis Mehefin y llynedd.

Ond croesawodd y ddwy ochr yr adroddiad heddiw, gyda llywydd UMCA yn dweud y bydd yn ‘dal i bwyso’ ar y brifysgol i gadw at ei gair.

“Mae’n amlwg eu bod nhw wedi ystyried barn ystod eang o bobol, a’r myfyrwyr, darpar fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn benodol felly rydym yn hapus iawn â hynny,” meddai Hanna Merrigan wrth golwg360.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ddefnyddio i greu brîff gan Fwrdd Prosiect Pantycelyn y brifysgol, a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron Cyngor y brifysgol yn yr haf.

“Dw i’n meddwl bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn gryf iawn, yn enwedig bod angen cadw’r enw ac ail-agor y neuadd cyn gynted â phosib, felly cyhyd â’n bod ni’n dylunio brîff cryf i gyd-fynd â’r adroddiad, dwi’n ffyddiog bydd y cynnig yn cael ei basio,” ychwanegodd Hanna Merrigan.

“Y camau nesaf i ni fydd dal i bwyso ar y brifysgol i wneud yn siŵr ei bod yn cadw at ei gair.”

Mynd at y penseiri

Dywedodd cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn a dirprwy Ganghellor y brifysgol, Gwerfyl Pierce Jones, ei bod yn hapus i gymeradwyo’r argymhellion.

“Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion gwerthfawr ac rwy’n falch fod y Bwrdd Prosiect wedi’u cymeradwyo fel rhai addas i’w cyflwyno i’r penseiri i gael y cyngor priodol ynglŷn â sut y gellid cyflawni’r argymhellion yn adeilad Pantycelyn,” meddai.

“Tasg y Bwrdd wedyn fydd cyflwyno briff dylunio terfynol i Gyngor y Brifysgol yn yr haf”.

‘Angen gweithredu cyn gynted â phosib’

Wrth ymateb i’r adroddiad mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw’n synnu gyda’r canfyddiadau a bod angen eu gweithredu cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Jeff Smith, aelod o Gell Pantycelyn: “Ar y cyfan mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu amdano. Mae’r adroddiad yn gwbl glir yn ei argymhellion. Nid yn unig bod yr adroddiad yn galw am ail-agor y neuadd cyn gynted â phosibl ond mae manylion penodol am ofodau cymdeithasol, strwythur, nifer fawr o ystafelloedd gwely, arlwyo ac ati.

Rydyn ni’n disgwyl i’r Brifysgol weithredu ar hynny ac yn edrych ymlaen at weld cynlluniau’r Brifysgol ar gyfer y neuadd, ac i glywed ei ymateb i’r adroddiad.”