Mae rhybuddion y gallai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wynebu bygythiadau ariannol yn sgil toriadau i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Daw’r sylwadau yn dilyn dogfen a gyflwynwyd i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ynglŷn â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy’n golygu y byddai’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn wynebu toriad o 32%.

Fe ddywedodd Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru) wrth golwg360 y gallai “canran sylweddol o’r toriad hwnnw effeithio ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei fod yn cael ei ariannu o’r un potyn.”

Mynegodd ei phryder am effaith hyn ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei gynnig yng Nghymru. Gallai hefyd gyfyngu ar fynediad myfyrwyr o gefndir difreintiedig i Brifysgolion neu rhai sydd am ddilyn cyrsiau rhan amser. Fe ychwanegodd y byddai’r toriad i’w deimlo ar gyrsiau “sy’n cael eu hystyried yn ddrud fel meddygaeth, deintyddiaeth a’r cyfryngau perfformio.”

‘Ansicrwydd ddim yn iach’

“Os oes toriad cyfatebol i’r hyn sy’n cael ei awgrymu, dw i ddim yn gweld y gall Prifysgolion barhau i gyflogi cymaint o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg. Doedden nhw’n sicr ddim yn gwneud hynny cyn sefydlu’r Coleg Cymraeg,” meddai Rebecca Williams.

Fe ddywedodd y byddai cwtogi staff “yn golygu llai o gyrsiau, ac felly llai o fyfyrwyr, ac mi allai ddechrau dadfeilio’n gyflym.”

Fe esboniodd fod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gyda’r posibilrwydd o ariannu’r Coleg Cymraeg yn uniongyrchol.

“Ond, yr hyn ry’n ni’n galw amdano fel undeb yw sicrwydd ac addewid i barhau i gyllido.”

“Dyw’r ansicrwydd ddim yn iach, yn enwedig i fyfyrwyr ysgol sy’n ystyried eu hopsiynau.”

‘Mater i’r Cyngor Cyllido’

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei ariannu drwy’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac felly “mater i’r Cyngor Cyllido yw penderfynu sut i ddosbarthu’r arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.”

“Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau’n cyflwyno llythyr blynyddol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fydd yn amlinellu’r blaenoriaethau y mae’r llywodraeth yn disgwyl i’r cyngor ei ddilyn yn 2016/17”.

‘Ariannu uniongyrchol’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn uniongyrchol.

Fe esboniodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mai dyfodol cyrff fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sydd yn y fantol, nid y Coleg Cymraeg.

“Nid yw’r Coleg Cymraeg yn chwaraewr bach arall ym marchnad addysg uwch ac yn ddibynnol ar fympwy’r Cyngor Cyllido,” meddai.

Am hynny, mae’r mudiad iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i ddatblygu mewn meysydd fel addysg bellach.

Fe esboniodd y byddai hyn yn “gwir wasanaethu anghenion Cymry ifainc trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Mewn cyfarfod diweddar gyda’r Prif Weinidog, buodd o’n gwbl glir i ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i’r sefydliad ac am weld gwaith y Coleg yn parhau ac yn tyfu.

“Mae’r Coleg yn sefydliad allweddol bwysig o ran gwireddu’r hawl i astudio’n Gymraeg,” meddai.

“Dylai allu datblygu cyrsiau cyffrous newydd, ac agored i bawb, i sicrhau gweithlu addas i wasanaethu cyrff cyhoeddus Cymru.”