Mae  Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi gosod targed i Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod 50% o ddisgyblion 7 oed Cymru mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Dyna brif nod maniffesto’r mudiad a fydd yn cael ei lansio nos fory ym Mae Caerdydd.

Mae Iaith addysg, iaith gwlad yn cynnwys prif flaenoriaethau RhAG ar gyfer datblygu ac ehangu addysg Gymraeg yn nhymor nesaf y Cynulliad wedi’r etholiadau ym mis Mai.

“Mae RhAG o’r farn nad yw trefn bresennol yn hyrwyddo a chefnogi addysg Gymraeg yn ddigonol,” meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.

“Yn gyffredinol mae awdurdodau lleol yn parhau i osgoi eu cyfrifoldebau sy’n golygu mai araf iawn yw’r twf ar hyn o bryd.”

Y prif feysydd i sicrhau twf

Yn y ddogfen, mae’r mudiad yn nodi’r meysydd sydd angen ‘sylw’ ar Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn arwain at fwy o blant yn derbyn addysg Gymraeg.

Mae’r rhain yn cynnwys marchnata addysg Gymraeg, sicrhau cludiant am ddim, sefydlu pwyllgor o arbenigwyr cynllunio ieithyddol i gynghori’r Gweinidog Addysg a chynyddu cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau dilyniant ieithyddol rhwng addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch.

Yn ôl RhAG, byddai mynd i’r afael â’r materion hyn yn golygu bod cyrraedd targed o 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030 yn realistig.

Galw am ddeddfwriaeth addysg Gymraeg gref

Mae’r grŵp hefyd yn galw am lunio Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg er mwyn cryfhau ‘seilwaith deddfwriaethol’ addysg Gymraeg, gan honni bod y ddeddfwriaeth bresennol ‘yn ddarniog, annigonol neu wedi’i ymgorffori mewn deddfau eraill.’

“Mewn sawl agwedd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn bodoli o gwbl,” ychwanegodd Lynne Davies.

Mae’r mudiad hefyd wedi galw am brif ffrydio’r Gymraeg ar draws adrannau’r Llywodraeth, cynllunio cyrsiau gloywi dwys i athrawon sy’n fodlon trosi i’r Gymraeg a rhaglen ddwys o ddysgu a gloywi Cymraeg i rieni di-Gymraeg sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.

Yr Aelodau Cynulliad, Suzy Davies o’r Ceidwadwyr, Keith Davies o’r Blaid Lafur, Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Simon Thomas o Blaid Cymru sy’n noddi’r digwyddiad lansio.

“Hoffwn groesawu cyhoeddiad maniffesto Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae gennym gyfrifoldeb i gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith fyw ac fel iaith byw. Y ffordd orau i wneud hyn yw hybu’r Gymraeg fel iaith addysg,” meddai Keith Davies AC.

“Rydw i yn falch iawn o noddi’r digwyddiad,” meddai Simon Thomas AC, gan ddweud bod ei blaid yn credu bod angen “sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg ar hyd y sbectrwm iaith gan gynnwys rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfle i gael addysg Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen.”

Bydd y maniffesto yn cael ei lansio nos fory am 6 o’r gloch yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd.