Cynlluniau Ardal Arloesi Glannau Abertawe
Mae cynghorwyr Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau gan brifysgol Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu ‘Ardal Arloesi’ newydd yng nghanol y ddinas.

Yn ôl y brifysgol fe fydd y datblygiad nid yn unig yn gampws ar gyfer eu myfyrwyr ond hefyd yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, masnach a hamdden.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r datblygiad, fydd wedi’i leoli yn ardal y Glannau yn y ddinas, gan bwyllgor cynllunio’r cyngor yr wythnos hon.

Mae disgwyl nawr i waith adeiladu ar yr Ardal Arloesi yn SA1 ddechrau erbyn hydref 2016, ac fe allai’r campws fod ar agor erbyn 2018.

Denu busnes

Mae cynlluniau’r brifysgol ar gyfer yr ardal yn cynnwys “cynigion i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil cymhwysol yn ogystal ag ardaloedd cymdeithasol, hamdden a mannau difyrrwch ehangach”.

Nododd y brifysgol eu bod yn gobeithio y gallai’r parth hefyd fod yn fodd o ddenu rhagor o fusnes i Fae Abertawe.

“Mae Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn cynnig cyfle unigryw i’r Drindod Dewi Sant greu prifysgol ddinesig, newydd i Gymru,” meddai Is-ganghellor prifysgol Y Drindod, Medwin Hughes.

“Nid campws Prifysgol gyffredin arall fydd hwn, ond yn hytrach, cymuned, integredig lle gall pobl fyw, dysgu, gweithio a chwarae.”