Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi pleidleisio dros gau dwy ysgol gynradd wrth i fwy na 100 o bobl brotestio yn erbyn y penderfyniad dadleuol.

Fe fydd Ysgol Gymraeg Pentrecelyn ac Ysgol Eglwysig Llanfair Dyffryn Clwyd yn cau ym mis Awst 2017 fel rhan o ad-drefnu ysgolion yn ardal Rhuthun.

Mae’r cyngor hefyd wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn â chau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd a symud disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun os bydd y cynnig yn cael ei dderbyn.

Fe fydd disgyblion Ysgol Gymraeg Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd  yn symud i ysgol gynradd dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd yr ysgol newydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg Categori 2, sef ysgol dwy ffrwd lle mae rhieni yn cael dewis os yw eu plant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gorymdeithio yn erbyn y penderfyniad

Mae protestio brwd wedi bod yn erbyn y syniad ers misoedd, gydag ymgyrchwyr yn ofni bod addysg Gymraeg y sir yn cael ei hisraddio.

Mae Ysgol Gymraeg Pentrecelyn yn ysgol categori 1, sy’n golygu bod y plant yn cael eu haddysgu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.

Bu dros 100 o bobl yn gorymdeithio drwy strydoedd Rhuthun heddiw i roi pwysau ar aelodau’r Cabinet i ail-ystyried.

“Da ni wedi cytuno i’r cau, ‘da ni hyd yn oed wedi cytuno i droi’n ysgol Eglwys er bod hynny’n wrthun i lot ohonon ni, ond yr unig beth rydan ni’n anghytuno efo ydy’r categori,” meddai Nia Môn o Ymgyrch Pentrecelyn.

“Da ni ddim yn cytuno y dylai addysg ein plant ni gael ei hisraddio o gategori 1 sef awyrgylch hollol Gymraeg i gategori 2 sydd heb ddigon o strwythur i sicrhau dyfodol yr iaith.

Y cyngor wedi gwneud ‘penderfyniad hanesyddol’

Ond wfftio sylwadau Eryl Williams a wna’r ymgyrchwyr dros Bentrecelyn, gan ddweud nad yw’r ddadl o wella’r ddarpariaeth Gymraeg  yn dal dŵr gan fod yr ysgol yn ‘denu’r’ di-Gymraeg yno’n barod.

“Maen nhw’n trio dweud bod categori 2 yn denu mwy o’r di-Gymraeg (at addysg Gymraeg), ond mae tua hanner o’n disgyblion ni ym Mhentrecelyn yn dod o deuluoedd di-Gymraeg felly mae hynny’n gwrthbrofi hynny yn syth, ond maen nhw wedi gwrthod edrych ar unrhyw dystiolaeth rydym ni wedi ei rhoi iddyn nhw,” meddai Nia Môn eto.

“Da ni wedi casglu tystiolaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol dros gadw statws categori 1 i’n plant ni a dros yr enillion i’n plant ni o drochi yn yr iaith a bod plant sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg yn dysgu’n llawer ynghynt drwy drochi.

“Mae’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad hanesyddol i israddio categori ein hysgol ni. Lle mae cynghorau eraill yn uwchraddio ysgolion ac yn eu helpu i Gymreigio, mae’r cyngor sir (Dinbych) yn israddio ysgolion yma.”

“Fel mae’r awyrgylch yn newid, os yw’r staff yn newid neu os oes un teulu Saesneg yn dod i mewn, ac felly 10 mlynedd i lawr y lein, gallai’r ysgol fod yn hollol Saesneg.”

 ‘Cynigion yn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg’

Yn ystod y cyfarfod heddiw, clywodd y Cabinet bod 30 o wrthwynebiadau unigol wedi dod i law oddi wrth y gymuned leol, yn dilyn cyhoeddi Hysbysiad Statudol ym mis Mehefin 2015 i gau’r ysgolion.

Yn ôl y cyngor, cafodd y gwrthwynebiadau eu hystyried fel rhan o’r drafodaeth.

“Mae consensws cyffredinol yn y ddwy gymuned y bydd ysgol ardal newydd sbon £3.4 miliwn yn darparu cyfleusterau gwell ar gyfer plant yn yr ardal,” meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg y Cabinet.

“Ond, rydym yn llwyr gydnabod bod categoreiddio iaith wedi bod yn fater emosiynol ymhlith rhai rhieni Ysgol Pentrecelyn ac maent wedi gwneud eu teimladau yn hysbys i’r Cyngor a chyn cyfarfod y Cabinet.  Mae eu barn wedi’i ystyried yr holl ffordd drwy’r broses.

“Bydd y cynigion y cytunwyd arnynt heddiw yn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg, gyda mwy o ddisgyblion o’r ardal yn cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

“Ein prif flaenoriaeth yw gwella addysg ac adeiladau ysgol ac rydym wedi ymrwymo i fonitro safonau a chanlyniadau’r Ysgol Ardal newydd, pan fydd yn weithredol. Bydd gan gorff llywodraethu’r ysgol newydd ran allweddol i’w chwarae i sicrhau ethos iaith yr ysgol newydd.”