Neuadd Pantycelyn
Mae grŵp ymgyrchu newydd, Ffrindiau Pantycelyn, a gafodd ei sefydlu er mwyn dwyn pwysau ar Brifysgol Aberystwyth i gadw at ei haddewid i ail-agor Neuadd Pantycelyn yn 2019, yn lansio deiseb heddiw yn galw ar y brifysgol i beidio â buddsoddi yn ei champws newydd ym Mauritius.

Mae’r grŵp am i’r brifysgol ddefnyddio’r arian sy’n cael ei fuddsoddi ym Mauritius ar y gwaith o adnewyddu Neuadd Breswyl Gymraeg Pantycelyn.

Cafodd Pantycelyn ei chau fel llety i fyfyrwyr dros yr haf ar ôl i Brifysgol Aberystwyth ddweud bod angen gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad, sydd wedi bod yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973.

Ond ar ôl protestio gan fyfyrwyr, a oedd wedi meddiannu’r adeilad am gyfnod, mae’r brifysgol wedi ymrwymo i’w ailagor fel neuadd breswyl erbyn 2019.

Seinio cloch fawr yng nghanol Aberystwyth

Bydd y grŵp yn lansio’r ddeiseb yng nghanol y dref heddiw am 12:30pm gan ddefnyddio cloch fawr i gael sylw’r cyhoedd.

“Rydym ni’n bwriadu rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am Mauritius ac am y ddeiseb yn ystod ein lansiad,” meddai un o’r trefnwyr, Heledd Llwyd, sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r ddeiseb hefyd yn galw ar y brifysgol i drin eu staff yn well, wedi i rai honiadau gael eu gwneud bod y brifysgol yn cael ei “rhedeg fel unbennaeth”, er i’r brifysgol ddiystyru’r honiadau hynny.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Aberystwyth am ei hymateb.