Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen heddiw i helpu pobl ifanc i gyrraedd prifysgolion gorau Prydain fel Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae’r rhaglen ‘Rhwydwaith Seren – Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru’ yn rhoi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr chweched dosbarth ‘disgleiriaf’ y Gogledd-ddwyrain a chymoedd y De i’w helpu i gael eu derbyn i’r prifysgolion hyn.

Mae’r rhaglen yn dechrau’n ffurfiol heddiw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Drwy’r rhaglen, bydd pobl ifanc fwyaf academaidd Cymru, rhwng 16 a 17 oed yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd er mwyn gwneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion blaenllaw.

Mae angen i’r disgyblion hyn gael eu ‘gwahodd’ i gymryd rhan yn y rhaglen a byddan nhw’n “cael cyfle i weithio mewn amgylchedd lle cân nhw eu hymestyn, eu herio, eu hysbrydoli a’u cefnogi i gyflawni.”

Mae dros 120 o ddisgyblion wedi cael eu gwahodd i lansiad canolfan Seren Rhondda Cynon Taf a Merthyr, ac mae dros 90 wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan yn lansiad canolfan Wrecsam a Sir y Fflint.

Mater o ‘lwc’ ar hyn o bryd 

“Rydyn ni’n gwybod bod myfyrwyr, yn hanesyddol, wedi mynd i mewn i’r prifysgolion gorau am eu bod yn ddigon lwcus i gael athro a oedd yn gyfarwydd â phroses dderbyniadau eu dewis brifysgol neu am eu bod wedi bod yn ddigon lwcus i gael rhywfaint o brofiad gwaith da,” meddai Huw Lewis, y Gweinidog Addysg.

“Drwy Seren rydyn ni am gael gwared ag unrhyw elfen o lwc a sicrhau bod pob un o’n dysgwyr sy’n ddawnus yn academaidd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u deallusrwydd a’u bod yn cael eu hannog a’u cefnogi i fynd i’r prifysgolion gorau.”

Dywedodd Stephen Parry Jones, cydgysylltydd Canolfan Rhondda Cynon Taf a Merthyr :“P’un a ydyn nhw am fynd i Rydychen neu Gaergrawnt, i brifysgol hynod fodern fel Warwick, un o bwerdai Llundain fel yr Imperial neu’r LSE, neu p’un a ydyn nhw am aros yng Nghymru.”

“Rydyn ni’n bwriadu rhoi popeth y mae ei angen i’n myfyrwyr disgleiriaf fel y gallan nhw wneud y penderfyniad sy’n iawn ar eu cyfer nhw.”

Ymestyn i’r gorllewin

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio’r trydydd canolfan Seren ar gyfer y De-ddwyrain ac mae gweithgareddau ar ddechrau yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae disgwyl hefyd i ganolfannau ychwanegol ddod dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol a choleg chweched dosbarth gysylltiad â rhwydwaith o’r rhaglen erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2016/17.