Neuadd Pantycelyn
Mae pwyllgor fydd yn ystyried sut i fwrw ati i ddatblygu neuadd breswyl Pantycelyn yn Aberystwyth wedi cyfarfod am y tro cyntaf.

Ymysg aelodau ‘Bwrdd Prosiect Pantycelyn’ mae rhai o swyddogion, aelodau staff a chynrychiolwyr myfyrwyr o’r brifysgol.

Yn ogystal â hynny mae gan y bwrdd ddau aelod annibynnol – Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones, a’r arbenigwr cyllid Roger Banner sydd yn gyn-aelod o Gyngor y brifysgol.

Cafodd Pantycelyn ei chau fel llety i fyfyrwyr dros yr haf ar ôl i Brifysgol Aberystwyth ddweud bod angen gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad, sydd wedi bod yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973.

Ond mae’r brifysgol wedi ymrwymo i’w hailagor fel neuadd breswyl erbyn 2019, a gwaith y bwrdd newydd fydd dechrau ar y gwaith o ddatblygu briff cynllunio ar gyfer llety a gofod cymdeithasol i’r myfyrwyr.

‘Cwbl ymroddedig’

Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn fydd Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac yn y cyfarfod cyntaf cafodd cylch gorchwyl ac aelodaeth y Bwrdd ei gymeradwyo.

“Mae hwn yn gam hollbwysig tuag at gyflawni bwriad y Brifysgol i ailagor Pantycelyn ac mae’r Bwrdd yn gwbl ymroddedig i’r dasg a osodwyd iddo,” meddai Gwerfyl Pierce Jones.

“Yn allweddol, mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys trawstoriad o unigolion a fydd yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr a staff y Brifysgol, ac yn dwyn ynghyd ystod eang o brofiad ac arbenigedd er mwyn ein galluogi i ddatblygu cynllun a fydd yn rhoi bywyd newydd i Bantycelyn fel canolbwynt bywyd Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Yn benodol, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i Elin Jones AC a Roger Banner, y ddau aelod annibynnol o’r Bwrdd. Bydd eu cyfraniadau hwythau’n anhepgor.”

Gwaith i ddechrau yn 2016

Mae disgwyl i adroddiad terfynol Bwrdd Prosiect Pantycelyn gael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2016 a chael ei gyflwyno i Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin.

Er nad yw Pantycelyn bellach yn neuadd breswyl, fe fydd rhai gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn parhau i ddigwydd yno ac fe fydd gan y myfyrwyr ddefnydd o’r ystafelloedd cymunedol.

“Yn dilyn cyfarfod cyntaf Bwrdd Prosiect Pantycelyn, rwy’n hyderus fod aelodaeth y Bwrdd yn gryf a’r cylch gorchwyl yn gynhwysfawr iawn,” meddai Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

“Mae’r trafodaethau’n adeiladol a phwysleisiaf y bydd y myfyrwyr yn ganolbwynt i’r trafodaethau dros y misoedd nesaf. Dwi’n cynrychioli llais y myfyrwyr ar y Bwrdd Prosiect, ac mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn croesawu ein mewnbwn.

“Hoffwn bwysleisio fod y broses y flwyddyn hon yn gliriach ac yn fwy tryloyw ac rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r Bwrdd yn unfryd ynglŷn â natur a darpariaeth Pantycelyn i’r dyfodol.

“Mae’r camau sy’n cael eu cymryd yn profi bod y Brifysgol o ddifrif am Bantycelyn y tro hwn.

“Dwi hefyd yn croesawu penodiad Elin Jones AC i’r Bwrdd a dwi’n siŵr y bydd y myfyrwyr yn croesawu hynny hefyd oherwydd ei hymroddiad a’i rôl flaenllaw yn yr ymgyrch i achub Pantycelyn.”

Aelodaeth Bwrdd Prosiect Pantycelyn

Aelodau o Gyngor Prifysgol Aberystwyth: Gwerfyl Pierce Jones (Cadeirydd y Bwrdd a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth), Janet Davies

Aelodau annibynnol: Roger Banner (arbenigwr ym maes cyllid), Elin Jones AC

Aelodau o Dîm Gweithredol y Brifysgol: Rebecca Davies (Dirprwy Is-Ganghellor, Prif Swyddog Gweithredol), Dr Rhodri Llwyd Morgan (Dirprwy Is-Ganghellor)

Cynrychiolwyr Myfyrwyr y Brifysgol: Hanna Merrigan (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), Lewis Donnelly (Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth)

Aelodau o Staff y Brifysgol: Dr Elin Royles (Cadeirydd Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Huw Lewis