Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod heddiw am un o’r gloch i drafod dyfodol ysgolion ardal Y Bala.

Mae cynllun ar y gweill gan y Cyngor i gau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid – er mwyn creu un ysgol ar gyfer plant 3 – 19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.

Ond, mae gwrthwynebiad wedi bod i’r cynllun, am y bydd yr ysgol newydd hon yn cael statws Ysgol Eglwys, ac nid yw ymgyrchwyr lleol yn credu bod angen statws crefyddol arni.

Yn ystod y cyfarfod heddiw, bydd aelodau’r Cabinet yn pleidleisio dros fwrw ymlaen â’r cynllun i ad-drefnu’r ysgolion ai peidio.

Pryder am y buddsoddiad

Mae’r cynllun i ad-drefnu’r ysgolion wedi derbyn gwerth £10.27 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Ond, mae pryder y bydd y grant hwn yn cael ei golli os na fydd y cynllun yn bwrw yn ei flaen yn syth.

Mae aelodau’r Cabinet yn ymwybodol o’r gwrthwynebiadau lleol, wedi i ddeiseb gyda 231 o lofnodion gael ei chyflwyno iddynt.

Mae’r gwrthwynebwyr yn nodi eu bod o blaid ad-drefnu’r ysgolion, ond nad ydynt am weld statws eglwysig yn cael ei rhoi ar yr ysgol newydd.

Mae cynlluniau wedi bod ar y gweill ers Ebrill 2009. Pe byddai’r Cabinet yn pleidleisio i fwrw ymlaen â’r prosiect heddiw, yna byddai disgwyl i’r ysgol newydd agor erbyn 1 Medi 2018.

“Ffordd ganol”

Fe ddywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sy’n gyfrifol dros y ddarpariaeth addysg, fod y Cyngor yn ymwybodol o’r gwrthwynebiadau.

Ond, bydd y Cyngor ar y cyd â Llywodraethwyr yr Ysgolion yn cynnig “ffordd ganol” heddiw er mwyn osgoi colli’r buddsoddiad gwerth £10.27 miliwn.

Pe byddai’r cynllun yn bwrw yn ei flaen felly, byddai Cyngor Gwynedd yn cynnig cynnal adolygiad ar berfformiad yr ysgol ymhen dwy flynedd ar ôl ei hagor.

Bwriad hyn fydd asesu effaith y statws eglwysig ar yr ysgol ynghyd â’r ansawdd addysg.