Mae hanesydd blaenllaw, Dr Elin Jones wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â newid sut mae hanes Cymru’n cael ei dysgu mewn ysgolion, a hynny ddwy flynedd ers iddi gyflwyno ei hadroddiad i’r Llywodraeth.

Fe wnaeth Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg ar y pryd, ofyn i Dr Elin Jones lunio adroddiad i’w gynghori ar addysgu hanes Cymru mewn ysgolion.

Yn ei hadroddiad, roedd Dr Elin Jones wedi nodi bod angen mwy o bwyslais ar addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Ond yn ôl yr hanesydd, does dim wedi newid ers cyhoeddi’r adroddiad.

“Ry’n ni’n amddifadu pobl ifanc o synnwyr o’u gorffennol, a synnwyr o le maen nhw’n perthyn, a’u hunaniaeth nhw,” meddai wrth y BBC.

“Fe ddywedodd llawer wrtha i fod eu haddysg nhw wedi eu hamddifadu o’r cyfle i ddysgu am eu gwlad eu hunain. Mae hynny’n beth digalon iawn i’w ddysgu.”

Cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru

Gan gyfeirio at adroddiad yr Athro Donaldson a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ac a oedd yn nodi argymhellion i drawsnewid y Cwricwlwm Cymreig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i sylwadau Dr Elin Jones.

“Roedd yr Athro Donaldson yn gwbl glir y dylid cynnwys elfen Gymreig ymhob ardal o Ddysgu a Phrofiad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Byddwn nawr yn mynd ati i greu cwricwlwm newydd i Gymru, a fydd yn cael ei ddylunio yng Nghymru, gan Gymru. Bydd Ysgolion Arloesi yn arwain y ffordd yn dylunio ac yn datblygu’r cwricwlwm newydd.”

Does dim dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd hwn, ond mae disgwyl iddo gyrraedd ysgolion o fewn y pump i saith mlynedd nesaf.

Mae Prif Weithredwr CBAC, prif fwrdd arholi Cymru, Gareth Pierce yn derbyn sylwadau Dr Elin Jones, gan ddweud y bydd cyrsiau newydd yn cael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf.

“Rydym yn ailwampio’r meini prawf TGAU Hanes presennol,” meddai.

Yn ôl Gareth Pierce, bydd dwy ran o dair o’r cwrs yn canolbwyntio ar hanes Cymru.

Dywedodd: “Ein bwriad o fewn y cwrs TGAU newydd yw sicrhau bod dwy o’r tair uned fydd yn cael eu dysgu yn seiliedig ar themâu lle mae persbectif Cymreig wedi ei integreiddio yn llawn, gydag o leiaf 25% o gynnwys pob opsiwn yn ymwneud yn benodol a Chymru.

“Bydd y drydedd uned yn cynnwys opsiynau sy’n ymdrin â hanes gwledydd eraill.  Mewn pedwaredd uned bydd cyfle i ddisgyblion wneud astudiaeth fanwl trwy waith estynedig yn ystod eu cwrs – bydd themâu cwbl Gymreig ymhlith y dewis fydd ar gael o fewn yr uned honno.