Mae pwerau newydd wedi’u cyflwyno i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn dilyn y ddeddf Addysg Uwch (Cymru) a gyflwynwyd fis Mawrth 2015.

Mae’r pwerau newydd hyn yn golygu y bydd newidiadau yn system reoleiddio’r CCAUC. Bydd ganddyn nhw ddyletswyddau newydd dros reoleiddio ffioedd a chynlluniau mynediad myfyrwyr addysg uwch i brifysgolion.

Bydd y pwerau newydd hyn yn dod i rym o 1 Medi ymlaen.

‘Diffinio ein perthynas’

Mae’r newid yn y system reoleiddio yn golygu y bydd yn rhaid i sefydliadau a phrifysgolion gydweithio â’r CCAUC wrth iddo fonitro eu cydymffurfiaeth â therfyniadau ffioedd a hefyd asesu ansawdd yr addysg.

“Bydd y Ddeddf newydd yn cryfhau ac yn diffinio ein perthynas â phrifysgolion”, meddai David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC.

“Ni fydd prifysgolion o anghenraid yn sylwi ar y newid yn ein perthynas” eglurodd David Blaney sy’n gobeithio sicrhau trosglwyddiad hawdd fel bod “ein dyletswyddau newydd yn cael eu cyflawni’n effeithiol.”