Mae Prifysgol Glyndŵr wedi derbyn grant o dros £210,000i helpu cyn-filwyr i ddychwelyd yn ôl i fywyd sifil.

Ymddiriedolaeth Forces in Mind sydd wedi darparu’r arian, dros gyfnod o ddwy flynedd, i’r Brifysgol yn Wrecsam.

Bydd canfyddiadau’r prosiect ymchwil dwy flynedd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu polisïau strategol yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Nikki Lloyd-Jones, uwch ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Bywyd Cymdeithasol y Brifysgol, fod y syniad wedi dod ar ôl i Fforwm Lluoedd Arfog Gogledd Cymru nodi’r angen i lenwi’r bwlch yn y gwahaniaethau diwylliannol rhwng bywyd milwrol a bywyd sifil.

Integreiddio

Y nod yw gwella dealltwriaeth o’r gwahaniaethau diwylliannol a phroblemau integreiddio a fydd yn helpu i lywio a dylanwadu ar wneuthurwyr polisi yn y maes.

Bydd y Brifysgol yn gweithio ar y prosiect mewn partneriaeth ag aelodau’r Fforwm, yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac awdurdodau lleol yn y rhanbarth.

Dywedodd Dr Nikki Lloyd-Jones: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud ymchwil i wneud gwahaniaeth i  wasanaethau cyhoeddus y dyfodol.

“Mae adroddiadau anecdotaidd am brofiadau pobl yn dangos eu bod nhw’n cael trafferth gyda gwahaniaethau diwylliannol wrth adael y Lluoedd Arfog. Rydym hefyd yn gwybod y gallai rhai yn y gymuned ehangach sy’n rhyngweithio’n rheolaidd â chyn filwyr wella sut maen nhw’n ymateb i’w anghenion pob dydd.”