Richard Steer
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i athro poblogaidd bu farw yn sydyn yn Abertawe.

Daeth dros 700 o bobl i wasanaeth coffa ar gyfer Richard Steer, 43, yn neuadd chwaraeon Ysgol Gyfun Pontarddulais heddiw.

Bu farw’r dirprwy brifathro wedi iddo gael ei daro’n wael wrth gerdded ar hyd stryd yn Abertawe ddydd Gwener ddiwethaf yn dilyn pryd o fwyd gyda ffrindiau.

Cafodd  ei gludo i Ysbyty Treforys mewn cyflwr difrifol a bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei farwolaeth wedi bod yn sioc enfawr i nifer fawr o ddisgyblion a gafodd eu llongyfarch ganddo ddydd Iau diwethaf yn dilyn derbyn eu canlyniadau TGAU.

‘Agwedd gadarnhaol’

Meddai  Janet Waldron prifathro’r ysgol: “Pan fyddwch yn meddwl am Richard, meddyliwch am y  pethau da – roedd ganddo agwedd gadarnhaol iawn.

“Cyn y canlyniadau TGAU dywedodd na fyddai’n gallu cysgu oherwydd y cyffro.

“Roedd o wedi cael y rhestrau canlyniadau ac yn cofio popeth arno felly pan ddaeth y disgyblion i ganfod eu graddau, roedd yn gwybod yn union sut yr oedden nhw wedi gwneud.

“Roedd yn trin y disgyblion fel ei blant ei hun a chafodd effaith aruthrol ar fywydau pobl.”

Dywedodd un o lywodraethwyr yr ysgol, John Miles bod gweld niferoedd mawr o ddisgyblion a chyn-ddisgyblion yn dod i’r gwasanaeth coffa yn dangos gymaint roedd yn cael ei edmygu.

Mae’r ysgol yn bwriadu creu gardd goffa er cof amdano.