Fe fydd cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod ym Meifod ddydd Mercher i drafod sefydlu ysgolion Cymraeg penodedig ym Mhowys.

Rhieni dros Addysg Gymraeg sy’n cynnal y cyfarfod ym Mhabell Cymdeithasau 1 am 12 o’r gloch, ac fe fydd y sesiwn o dan gadeiryddiaeth Dr Hywel Glyn Lewis o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ymhlith y siaradwyr gwadd fydd Aled Morgan Hughes ar ran Gwir Ddwyieithrwydd i Bawb ac Elin Maher, ar ran RhAG Casnewydd, fydd yn trafod sefydlu’r ysgol gyfun Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd yn 2016.

Eisoes, fe alwodd RhAG ar Gyngor Powys i gyflwyno cynlluniau pendant i sefydlu ysgolion penodedig Cymraeg yn y sir fel egwyddor ddiamwys yn sail i’r adolygiad presennol i ad-drefnu addysg uwchradd yn y sir.

‘Gweledigaeth’

Dywedodd Ceri Owen ar ran RhAG: “Mae Powys yn un o’r ychydig siroedd sy’n parhau i fod heb ysgol uwchradd Gymraeg.

“Yn wyneb cynlluniau i fuddsoddi’n sylweddol i weddnewid y sector cyfrwng Saesneg ym Mhowys, mae angen gweledigaeth yr un mor bellgyrhaeddol o safbwynt addysg Gymraeg.

“Byddai sefydlu ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg yn torri’r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd.

“Mae’n gyfle euraidd i drawsnewid darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhowys er gwell. Nid yw parhau â’r sefyllfa bresennol yn opsiwn hyfyw na chynaliadwy – mae angen newid radical a datrysiad fydd yn cynnig tegwch i bawb, a hynny fel mater o frys.”

Gallwch ddarllen rhagor am ymgyrch Gwir Ddwyieithrwydd yng ngogledd Powys yma.