Ar drothwy’r Eisteddfod, ymgyrchwyr ‘Gwir Ddwyieithrwydd’ sy’n trafod eu pryderon

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Feifod mae’n werth nodi mai Powys yw’r unig Sir yng Nghymru lle na cheir Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg. Bu galw am ysgol o’r fath am chwarter canrif a mwy a fawr ddim yn digwydd. Defnyddiodd llawer un brinder poblogaeth fel esgus tros beidio gweithredu. A’r gwir yw fod yr holl oedi wedi cyfrannu at ddirywiad enbyd y Gymraeg yng ngogledd Powys. Crebachodd y cymunedau Cymraeg yn arw iawn ers pan fu’r Eisteddfod Genedlaethol yma ddiwethaf yn 2003. Prin fod cymuned ar ôl ym Mhowys bellach lle mae tros 50% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac os na symudir yn bur sydyn ar y mater hwn ni fydd iaith ar ôl i’w hachub yma.

Pwy feddyliai ein bod wedi trafod y mater hwn am gyhyd. Mae’n bwnc sy’n codi ei ben ym ‘Mhlu’r Gweunydd’ (Papur Bro ardal yr Eisteddfod) yn gyson ers i hwnnw gael ei sefydlu yn 1978, ac eto does dim yn digwydd. Bu sôn i ddechrau am sefydlu uned Gymraeg (o dan adain Ysgol Uwchradd Caereinion) yng Nghyfronydd (cartref William a Ffion Hague erbyn hyn) ond llwyddodd y gwrthwynebwyr i atal hynny. Fe sefydlwyd ffrwd Gymraeg yn Llanfair Caereinion ac mae honno yn tyfu ac yn tyfu, ond nid yr un peth yw ffrwd Gymraeg ac Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg. Rhaid wrth ethos Gymraeg mewn ysgol a dim ond mewn Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg y ceir hynny. Nid yw dwy ffrwd ieithyddol dan yr un to yn gweithio o gwbl.

Sbectrwm

Mae’r pwnc wedi codi ei ben unwaith eto ar drothwy’r Eisteddfod, a gan fod y Cyngor Sir yn gwbl analluog i ddod i unrhyw benderfyniad ar y mater mae cwmni ymgynghorwyr iaith ‘Sbectrwm’ wedi cael y gwaith o ddatrys y broblem. Cynhaliwyd cyfarfodydd (rhai ohonynt yn bur stormus) yn y gwahanol Ysgolion Uwchradd ac mae’r County Times, ynghyd a rhai gwleidyddion fel yr Aelod Cynulliad Russell George a chyn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Sir, Jane Dodds, wedi gwrando ar leisiau croch y gwrthwynebwyr trwy alw am ddod ar ymgynghoriad diweddaraf i ben. Un arall sydd wedi ochri gyda’r gwrthwynebwyr yw Cynghorydd Sir Dyffryn Banw, Myfanwy Alexander, er ei bod yn gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng (Llanerfyl) ac yn aelod, neu o leiaf yn gyn–aelod, o Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

‘Lleisiau croch’

Bydd y gwleidyddion hyn fel arfer ar frys i fynd i’r afael ag unrhyw argyfwng neu anghyfiawnder. Ond pan ddaw hi’n fater o drafod hawl diymwad pobl y Sir i gael addysg mewn Ysgol Uwchradd Gymraeg mae yna wastad ddadl dros oedi. Wythnos nesa’, fe fydd y gwleidyddion hyn yn rhodio’r Maes, yn goferu o Gymreictod ac yn canu ‘o bydded i’r hen iaith barhau’ nerth esgyrn eu pennau. Felly mae’n bwysig ein bod yn eu taclo ac yn mynnu cael gwybod ganddynt pam na fedr y gwleidyddion dewr hyn roi eu cefnogaeth lwyr i sefydlu Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg yn y Sir? Pam gwrando ar y lleisiau cras a chroch (ond llais lleiafrifol er hynny) sydd bob amser yn amheus o bopeth Cymraeg?

Ond nid y lleisiau croch hyn fydd yn cael y llaw uchaf y tro hwn. Ni ellir gadael iddynt lwyddo neu dyna fydd diwedd y Gymraeg  yn y fro hon. Fel mewn ardaloedd eraill o Gymru, gwelwyd twf aruthrol mewn addysg Gymraeg yn Ysgol Gynradd Dafydd Llwyd yn y Drenewydd ac mae sôn am gael Ysgol Gynradd Gymraeg gyda lle i 120 yn y Trallwm. Ar ôl tin-droi am ddeugain mlynedd dda, fe fydd yn rhaid i’r Cynghorwyr malwodaidd ar Gyngor Sir Powys weithredu y tro hwn.