Cyngor Sir Ceredigion
Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn ag ysgol eglwys newydd yn Sir Geredigion, a hynny wythnosau yn unig ers ffrae debyg ynglŷn ag addysg a rôl yr eglwys yn ardal y Bala.

Yn ddiweddar fe godwyd gwrychyn rhai pobl leol ar ôl i Gyngor Sir Gwynedd benodi ysgol uwchradd gydol oes newydd y Bala yn ysgol Eglwysig.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer datblygiad tebyg yng Ngheredigion hefyd, gydag ysgol eglwys newydd yn agor yn 2017 yn lle tair ysgol gynradd sydd yno ar hyn o bryd, er mai ysgolion cyffredin y wladwriaeth yw dwy o’r rheiny.

Dim ond yr Eglwys yng Nghymru fydd â chynrychiolaeth swyddogol ar lywodraethwyr yr ysgol newydd, fodd bynnag, ac mae hynny wedi codi pryderon fod enwadau eraill yn cael eu gadael allan yn annheg.

‘Pawb, neu neb’

Bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw cau ysgolion Llanwenog, Cwrtnewydd a Llanwnnen ac anfon y disgyblion i Ysgol Drefach erbyn mis Ionawr 2017.

Ond mae’r awdurdod lleol wedi cadarnhau mai dim ond yr Eglwys yng Nghymru fydd â chynrychiolydd ar fwrdd llywodraethwyr yr ysgol newydd, gyda dim lle ffurfiol i enwadau crefyddol eraill.

Mae’r pentrefi yng nghanol ardal adnabyddus y Smotyn Du yn ne orllewin Cymru sy’n gadarnle i ffydd yr Undodiaid, gyda chapeli’r Bedyddwyr ac Annibynwyr hefyd yn yr ardal.

Ac mae’r ffaith na fydd lle swyddogol i unrhyw gynrychiolwyr o’r enwadau rheiny wedi siomi rhai yn lleol.

“Ddylai dim bod lle penodol i unrhyw enwad,” meddai ysgrifennydd Cyfadran Cymru o’r Eglwys Undodaidd, Melda Grantham.

“D’ych chi ffaelu cynnwys pawb, felly ddylech chi ddim cynnwys neb. Ni yn y Smotyn Du, mae’n ardal gref i’r Undodiaid, a mwy na thebyg bydd llawer o’r disgyblion yn dod o deuluoedd lle mae’r teulu yn addoli yn y dull Undodaidd.

“Dw i ddim yn siŵr a yw e’n berthnasol y diwrnodau hyn i gadw lle ar gyfer yr Eglwys.”

Gellir darllen mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.