Elwen Evans QC
Mae’r prif erlynydd yn achos llofruddiaeth April Jones wedi cael ei phenodi’n bennaeth adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Y fargyfreithwraig Elwen Evans QC oedd yn gyfrifol am yr achos roddodd ddedfryd oes i Mark Bridger, llofrudd y ferch bump oed o Fachynlleth.

Mae hi hefyd wedi gweithio ar sawl achos adnabyddus arall, gan gynnwys amddiffyn cyn-bennaeth pwll glo’r Gleision, Malcolm Fyfield, gafodd ei ganfod yn ddieuog o ddynladdiad ar ôl damwain laddodd pedwar o weithwyr.

Arwain ‘cenhedlaeth newydd’

Bydd yr Athro Evans, sydd yn wreiddiol o Sir Ddinbych, yn dechrau eu swydd newydd ar 1 Awst pan fydd hi hefyd yn camu lawr o’i rôl fel pennaeth Siambrau Is-coed.

“Rwy’n credu bod cyfle euraidd gan y Coleg i gyflawni rôl bwysig mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ac mae’n bleser mawr gen i gael cyfle i arwain tîm a fydd yn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion y gyfraith a chyfreithwyr,” meddai Elwen Evans wrth gyhoeddi ei phenodiad.

“Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y Coleg a rhagoriaeth ymchwil y Brifysgol. Rwy’n awyddus i’r Coleg ddarparu addysgu o safon sy’n canolbwyntio, nid yn unig ar ymchwil, ond hefyd ar gyflwyno hyfforddiant, sgiliau a phrofiad academaidd ac ymarferol effeithiol o safon.”

Heriau i ddod

Ychwanegodd Elwen Evans bod sawl her a phenderfyniad allweddol yn wynebu’r byd cyfreithiol yng Nghymru a thu hwnt dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae’r rhain yn cynnwys cwmpas addysg ac ysgolheictod cyfreithiol; cynnwys addysgu ac ymchwil cyfreithiol; sut bydd cyfreithwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill yn cymhwyso yn y dyfodol; ail-lunio’r sector cyfreithiol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang; heriau penodol datblygiad awdurdodaeth Cymru i ddeddfu; ac effaith cyfathrebu digidol ar wasanaethau cyfreithiol,” meddai’r pennaeth.

“Mae hyn i gyd yn ychwanegol at newidiadau cyson yn y gyfraith ar bob lefel o lywodraethu. Mae’n bwysig ein bod yn cyfrannu at y trafodaethau hyn.

“Mae’n hollbwysig sicrhau bod ein myfyrwyr wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol – a’u bod yn mwynhau pob cam o’r daith.”