Mae cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau i gau tair ysgol gynradd yn y sir.

Roedd nifer o opsiynau wedi cael eu trafod, gan gynnwys uno neu ffederaleiddio ysgolion Bryn, Pontrhydyfen a Thonmawr.

Roedd rhesymau ariannol a safonau dysgu wedi cael eu rhoi am wrthwynebu’r opsiynau hynny.

Daeth cadarnhad gan y Cyngor y prynhawn yma fod yr argymhellion i gau’r tair ysgol wedi cael eu derbyn mewn cyfarfod y bore ma.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd disgyblion o Uned Blynyddoedd Cynnar Tonmawr yn symud i Ysgol Newydd Dyffryn Clydach, bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Bryn ac Ysgol Gynradd Pontrhydyfen yn symud i Ysgol Gynradd Cwmafan, a disgyblion o Ysgol Tonmawr yn symud i Ysgol Crynallt.

Yn ystod y broses ymgynghori, roedd nifer o gynghorwyr wedi mynegi pryderon am gludiant, safonau addysg a maint dosbarthiadau.

Bydd y drefn newydd yn dod i rym ar Fedi 1.

Roedd Aelod Seneddol Llafur Aberafan, Stephen Kinnock wedi galw am ffederaleiddio’r ysgolion yn hytrach na’u cau yn gyfan gwbl.

Mae Golwg360 wedi gofyn i’w swyddfa ymateb yn dilyn penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot.