Neuadd Pantycelyn
Mae 20 o gyn-lywyddion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi arwyddo llythyr agored – sy’n galw am achub Neuadd Pantycelyn – a fydd yn cael ei gyhoeddi yn rhai o brif bapurau newydd Cymru heddiw.

Daw’r llythyr ar ôl i staff cyfrwng Cymraeg y brifysgol rhyddhau datganiad ddoe oedd  yn cefnogi’r ymgyrch i achub y neuadd breswyl.

Fis diwethaf fe gafodd myfyrwyr sy’n aros ym Mhantycelyn glywed bod Pwyllgor Cyllid a Strategaeth y brifysgol wedi argymell cau’r neuadd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, oherwydd bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar yr adeilad.

Ers hynny mae UMCA wedi mynnu y byddan nhw’n parhau i brotestio yn erbyn cynlluniau’r brifysgol.

Byrbwyll

Mae’r cyn-lywyddion sydd wedi llofnodi’r llythyr yn cynnwys Karl Davies, Llion Williams, Catrin Dafydd, Aled Siôn a Menna Machreth.

Meddai un arall o’r llofnodwyr, yr Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd: “Mae cyfraniad Neuadd Pantycelyn i fywiogrwydd y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn anferthol. Fe ysgrifennon ni’r llythyr yma oherwydd pryder nad yw Prifysgol Aberystwyth yn llawn sylweddoli pwysigrwydd Pantycelyn i’r Brifysgol nac i’r Gymraeg yn ehangach.

“Rydyn ni’n galw ar y Brifysgol i beidio gwneud penderfyniad byrbwyll i gau’r Neuadd, ac yn hytrach i gadw Pantycelyn ar agor am y flwyddyn academaidd nesaf o leiaf, gan ymgynghori’n llawn â staff, myfyrwyr a chyfeillion eraill y Brifysgol cyn dod i benderfyniad hirdymor.”

‘Er lles y Gymraeg’

Ychwanegodd Llywydd presennol UMCA Miriam Williams: “Rydan ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth i’r ymgyrch yn erbyn cau Pantycelyn. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd hefyd yn gyn-breswyliwr, wedi dweud na fyddai am weld y Neuadd yn cau.

“Mae’n hen bryd i awdurdodau’r Brifysgol wrando ar lais ei myfyrwyr, ei staff a phobol Cymru. Rhaid cadw Pantycelyn ar agor er lles y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.”