Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi cynyddu’r arian ymchwil prifysgolion sy’n cael ei wario ar wyddoniaeth i 70% o’r cyfanswm.

Mae hynny’n ymgais, medden nhw, i “baratoi’r ffordd ar gyfer cyflogaeth, buddsoddiad, arloesedd a datblygiadau cyfalaf”.

Ond fe fydd cyllid ar gyfer cyrsiau israddedig rhan amser, yn lleihau’r flwyddyn nesa’, a hynny oherwydd “tueddiadau recriwtio”.

Hanner miliwn yn llai

Mae gan y Cyngor – HEFCW – gyfanswm o £154 miliwn o arian cyhoeddus i’w rannu i brifysgolion yng Nghymru, sydd £540,000 yn llai na’r llynedd.

Gwaith ymchwil fydd yn cael yr hwb mwya’ o £80 miliwn gyda 70% o hwnnw’n cael ei wario ar brosiectau gwyddonol – pwnc sy’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd £33 miliwn hefyd yn cael ei wario ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig rhan amser a £15 miliwn ar gyfer cyrsiau israddedig amser-llawn cost uchel – fel meddygaeth, deintyddiaeth a’r celfyddydau perfformio.

Ymchwil ‘o safon byd’

Dyma’r tro cyntaf i gyfran pob prifysgol fod yn seiliedig ar ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – fe ddywedodd hwnnw bod un rhan o dair o ymchwil prifysgolion Cymru o “safon fyd-eang”.

“Rydym wedi parhau i dargedu ein cyllid i brifysgolion mewn ffordd sy’n cefnogi arloesedd a thwf ac sy’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr posibl, waeth beth yw eu hamgylchiadau,” meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr HEFCW.

“Mae addysg uwch yn creu gwybodaeth newydd y mae arloesedd ac economi’n dibynnu arni, ac mae’n rhoi’r sgiliau i ddinasyddion gyfrannu at dwf economaidd y dyfodol ac at gymdeithas yn fwy cyffredinol.”