Keith Smith wrth ei waith yn Affrica
Fe fydd cenhadwr o Affrica yn dod i Ddyffryn Teifi’r wythnos nesaf i ymweld ag ysgolion lleol ac i annerch cyfarfod cyhoeddus ym Mhencader.

Mae Keith Smith wedi bod yn gweithio fel cenhadwr yn Burkina Faso yng ngorllewin Affrica ers dros 20 mlynedd, a bu’n byw gyda’i wraig a’u plentyn bach yn nhref GoromGorom ar y ffin gyda Mali yn ystod y rhyfel cartre’.

Yn Hydref 2012, aeth heddlu arfog i’w cartref a rhoi 10 munud o rybudd i’r teulu ffoi at y brifddinas i osgoi grŵp o Al Qaeda oedd ar eu ffordd i’w herwgipio.

Ers hynny, maen nhw wedi dychwelyd i Burkina Faso i barhau a’u gwaith dros gymunedau lleol a phregethu.

Mae’r ymweliad yn cael ei drefnu gan y grŵp Cristnogol lleol, Coda Ni, ac yn cael ei gefnogi gan Eglwys Glenwood Caerdydd.

Bydd Keith Smith  yn ymweld ag Ysgolion Cynradd Llandysul a Chaerfelin ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, ac yna’n annerch cyfarfod cyhoeddus yn yr Hen Gapel Pencader am 7pm nos Fercher nesaf (20 Mai) pryd y dangosir ffilm am y genhadaeth.