Mae ymgynghoriadau sy’n ymwneud â chynlluniau dadleuol i gau dwy ysgol gynradd yn Sir Ddinbych yn dod i ben heddiw.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys agor ysgol ardal ddwyieithog newydd yn lle Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn.

Ond mae Cangen Sir Ddinbych o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi dweud bod y cyngor yn colli cyfle i hyrwyddo sgiliau dwyieithog holl ddisgyblion yr ardal trwy beidio sefydlu ysgol ardal Gymraeg yn hytrach na un dwyieithog.

Pe bai’r cynlluniau yn cael eu pasio byddai’r ysgolion cynradd yn cau ar 31 Awst, 2016 a’r ysgol newydd yn agor ar 1 Medi 2016.

Pryder tros gyflwr adeiladau

Mae’r cyngor wedi dweud bod rhaid ad-drefnu ysgolion er mwyn mynd i’r afael a chyflwr yr adeiladau a’r lleoedd sydd dros ben ynddyn nhw.

Meddai Elfed Williams, Cadeirydd RhAG Sir Ddinbych: “Ysgolion cyfrwng Cymraeg yw’r unig fodel o ysgol yng Nghymru sy’n gyson yn cyflwyno sgiliau ieithyddol uchel mewn dwy iaith i’w holl ddisgyblion.

“Hyd y gwelwn ni, nid oes unrhyw reswm dros beidio â sefydlu ysgol Gymraeg yn hytrach na dwy ffrwd, wrth uno’r ddwy ysgol hon, os eir ymlaen â’r uno.

“Bydd peidio â chyflwyno’r ddwy iaith yn drylwyr i holl ddisgyblion y ddwy ysgol yn golygu y bydd rhai disgyblion – y rhai heb y Gymraeg – o dan anfantais ieithyddol trwy gydol eu hoes, wrth i Gymru ddatblygu’n wlad drylwyr ddwyieithog.”