Fe fydd disgyblion mewn 59 ysgol drwy Gymru yn creu bwletinau newyddion fydd yn cael eu cyhoeddi ar radio cenedlaethol ac ar y we ar ddiwedd y mis.

Fel rhan o Ddiwrnod Newyddion Bwletin Ysgol BBC, bydd pobol yn medru gweld a chlywed detholiad o’r bwletinau newyddion ar Raglen Dylan Jones a’r Post Prynhawn ar Radio Cymru; Good Morning Wales, Jason Mohammad Show a Good Evening Wales ar Radio Wales; Wales Today a Chymru Fyw yn ogystal â gwefan Bwletin Ysgol BBC.

Disgyblion 11-16 oed fydd yn creu’r bwletinau newyddion ar 19 Mawrth ac mi fydden nhw’n trafod pynciau o’r oedran pleidleisio i fand Cymraeg sydd newydd arwyddo cytundeb gyda chwmni recordio.

Er mwyn datblygu sgiliau newyddiadurol, mae nifer o’r ysgolion yn derbyn sesiynau mentora gan gyflwynwyr radio fel Nia Thomas o Radio Cymru.

Meddai un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa fydd yn cymryd rhan, Jac: “Mae’r cyfle wedi bod yn wych hyd yn hyn ac mae wedi bod yn grêt cael ymweld â stiwdio a gweld cynhyrchiad sioe radio.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fynd ati i chwilio a dewis y storiâu a phenderfynu beth sy’n gwneud stori dda.”