Mae cefnogaeth unfrydol wedi ei leisio gan rieni Sir Ddinbych i sefydlu cangen RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg).
Daw wedi i gynghorwyr gytuno ar newidiadau o fewn system addysg y sir, sy’n cynnwys ymgynghori ar gynnig i uno dwy ysgol gynradd, sef Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn yn Rhuthun.
Awgrym y Cyngor Sir yw sefydlu ysgol ardal ddwyieithog i wasanaethu’r gymuned.
Mae bwriad hefyd i wneud i ddisgyblion ardaloedd Prion, Saron a Llanrhaeadr fynychu’r ysgol uwchradd addas agosaf atyn nhw, sef Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Brynhyfryd, Rhuthun yn hytrach nag Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy sy’n ysgol gyfun Gymraeg.
Byddai newidiadau, yn ôl y mudiad, yn “gwanychu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg” sir Ddinbych yn ogystal ag arwain at gostau ychwanegol i rieni.
Diffyg gweledigaeth
Meddai Elfed Williams Cadeirydd RhAG Sir Ddinbych: “Mae diffyg arweiniad a gweledigaeth y Cyngor dros y misoedd diwethaf wedi prysuro’r angen dros sefydlu troedle yma gan RhAG.
“Ar hyn o bryd ymddengys bod methiant ar eu rhan i gydnabod bod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng addysg Gymraeg ac addysg ddwyieithog.
“Tristwch mawr yw gweld arwyddion bod Polisi Addysg Gymraeg sir a fu’n grud i arloeswyr mudiad yr Ysgolion Cymraeg yn dechrau simsanu.
“Bydd y gangen yn gweithio i amlygu’r methiannau hynny er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i bawb sy’n dymuno cael mynediad at addysg Gymraeg yn Sir Ddinbych.”
Bydd cyfarfod swyddogol cyntaf RhAG Sir Ddinbych yn cael ei gynnal am 7:30yh yn Ysgol Bro Cinmeirch ar 25 Chwefror.