Gyda chawodydd trwm o eira wedi effeithio ar sawl rhan o Gymru, yn benodol y gogledd-orllewin heddiw, mae degau o ysgolion yng Ngwynedd wedi cau.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am fwy o eira yn ardaloedd Bangor a Chaernarfon y bore ‘ma ond yn dweud y bydd y tywydd yn cynhesu erbyn yfory, gyda thymheredd uchaf o 6C.

Yr ysgolion sydd ar gau yng Ngwynedd ar hyn o bryd yw:

    • Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd
    • Ysgol Penisarwaen, Penisarwaen
    • Ysgol Llanllechid, Llanllechid
    • Ysgol Y Garreg, Llanfrothen
    • Ysgol Edmwnd Prys, Gellilydan
    • Ysgol Bro Cynfal, Llan Ffestiniog
    • Ysgol Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog
    • Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
    • Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog
    • Ysgol Manod, Blaenau Ffestiniog
    • Ysgol Tregarth, Tregarth
    • Ysgol Bodfeurig, Sling
    • Ysgol Bethel, Bethel
    • Ysgol Dolbadarn, Llanberis
    • Ysgol Tryfan, Bangor
    • Ysgol Pendalar, Caernarfon
    • Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda
    • Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes
    • Ysgol Bro Lleu, Penygroes
    • Ysgol Waunfawr, Waunfawr
    • Ysgol Babanod Abercaseg, Bethesda
    • Ysgol Cae Top, Bangor
    • Ysgol Penybryn, Bethesda
    • Ysgol Llanllyfni, Llanllyfni
    • Ysgol Babanod Coedmawr, Bangor
    • Ysgol Nebo, Nebo
    • Ysgol Y Faenol, Bangor
    • Ysgol Llanfachreth, Llanfachreth