Andrew Green
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai Andrew Green fydd Cadeirydd newydd y bwrdd.

Bydd yn cychwyn ei swydd ar 1 Ebrill ac yn olynu’r Cadeirydd presennol, yr Athro R Merfyn Jones.

Andrew Green oedd Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1998 tan ei ymddeoliad y llynedd.  Y mae eisoes yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg ac wedi cadeirio paneli academaidd ar ran y Coleg ers ei sefydlu.

Dywedodd Andrew Green am ei benodiad:  “Mewn byr amser mae’r Coleg wedi ennill ei blwyf fel sefydliad effeithiol a bywiog.

“Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gydweithio ag aelodau Bwrdd a staff y Coleg yn ystod y tair blynedd nesaf, er mwyn cryfhau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod gan fyfyrwyr y cyfle i ddefnyddio’r iaith ym mhob pwnc posibl.”

‘Arweiniad strategol’

Brodor o Stamford, Swydd Lincoln yw Andrew Green a chafodd ei fagu yn ne Swydd Efrog. Daeth i Gymru yn 1973 i hyfforddi fel llyfrgellydd  academaidd.  Bu’n gweithio yn llyfrgelloedd prifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Sheffield ac Abertawe, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgelloedd.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  “Mae dealltwriaeth Andrew o’r sector addysg uwch, ei brofiad fel Llyfrgellydd Cenedlaethol arloesol, a’r profiad sydd ganddo’n barod fel aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg yn ei gymhwyso i gynnig arweiniad strategol i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ystod y blynyddoedd allweddol nesaf.”